Skip navigation

Ymarfer yn ddiogel ar lefelau ymarfer uwch

Mae ymarfer diogel ac effeithiol yn gyfrifoldeb ar y cyd

Mae ymarfer diogel ac effeithiol yn gyfrifoldeb ar y cyd rhwng yr unigolyn cofrestredig, rheoleiddwyr iechyd a gofal, y sefydliad sy’n cyflogi (lle bo hynny’n berthnasol) a’r cyrff proffesiynol, gyda phob un ohonynt yn cydweithio o fewn fframwaith cyfreithiol.

Unigolion cofrestredig

Fel unigolion cofrestredig, eich rôl ydy sicrhau eich bod yn gweithio oddi mewn i derfynau eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad. Drwy ddefnyddio eich crebwyll proffesiynol, mae rhaid i chi:

Rheoleiddwyr

Mae rheoleiddio yn rhan o’r darlun diogelwch ehangach ac ar ei ben ei hun, nid yw’n gwarantu ymarfer diogel, ac mae hynny’n cynnwys ar y lefelau ymarfer uwch. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am reoleiddio lefelau ymarfer uwch a’r hyn rydyn ni’n ei wneud i ddiogelu’r cyhoedd.

Cyflogwyr

Rhaid i sefydliadau sy’n cyflogi fod â’r canlynol ar waith:

  • trosolwg eglur gan arweinwyr ac atebolrwydd dros y gweithlu;
  • dealltwriaeth gyson o lefelau ymarfer uwch (gan gynnwys ar y lefel weithredol);
  • polisïau a phrosesau gweithlu i gefnogi lefelau ymarfer uwch, gan gynnwys ar gyfer goruchwylio, dirprwyo ac optimeiddio cwmpas;
  • cynllunio cadarn ar gyfer y gweithlu, gan gynnwys cynllunio gwasanaethau a defnyddio’r gweithlu;
  • cefnogaeth gyson i’r gweithlu, gan gynnwys addysg, hyfforddiant a goruchwylio er mwyn bodloni gofynion rheoleiddiol;
  • disgrifiadau swyddi sy’n mapio i’r pedair colofn ymarfer; a
  • cwmpasau ymarfer diffiniedig sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth i reolwyr a chyflogwyr ar yr Hafan Cyflogwyr.

Cyrff Proffesiynol

Mae cyrff proffesiynol yn darparu arweiniad a chefnogaeth ar gyfer proffesiynau penodol mewn perthynas â chwmpas ymarfer, eiriolaeth a chyngor, ymchwil, a chefnogaeth i dwf proffesiynol a datblygu proffesiynol parhaus.

Gallai aelodaeth o gorff proffesiynol gynnwys trefniadau indemniad proffesiynol, ond mewn rhai achosion, gall fod angen i unigolion cofrestredig wneud trefniadau ychwanegol, yn ddibynnol ar gwmpas eu hymarfer fel unigolyn.

Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 21/05/2026