Mae’r adran hon yn cynnwys adnoddau ychwanegol i helpu unigolion cofrestredig sy’n gweithio ar lefelau ymarfer uwch i fodloni eu safonau HCPC
- Mae’r cwestiynau cyffredin yn adlewyrchu’r rhai a ofynnir amlaf i’r HCPC fel rheoleiddiwr.
- Mae’r templed myfyrio yn eich cynorthwyo chi i ddiffinio ac egluro cwmpas eich ymarfer fel unigolyn a chwmpas ymarfer eich proffesiwn ar lefelau uwch.
- Os ydych chi’n aelod, bydd gan eich corff proffesiynol adnoddau hefyd i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar y lefelau ymarfer uwch neu tuag at y lefelau hynny.
- Os ydych chi’n cael eich cyflogi gan sefydliad, mae’n debygol y bydd ganddynt eu polisïau a’u strwythurau arweinyddiaeth eu hunain i gefnogi datblygiad y gweithlu ar y lefelau ymarfer uwch.
Cwestiynau Cyffredin Lefelau ymarfer uwch
Expand all
-
Mae gan bob un o wledydd y Deyrnas Unedig ei set ei hun o adnoddau i ddisgrifio’r gwahanol lefelau ymarfer, sef estynedig/arbenigol, uwch, ymgynghorol, sy’n benodol ar gyfer y wlad honno, gan gynnwys y galluoedd disgwyliedig ar rai o’r lefelau ymarfer. Gallwch weld rhai o’r rhain ar waelod y dudalen hon. Mae’r gwaith yn esblygu ac mae ymdrechion yn parhau ar draws y Deyrnas Unedig i ddarparu eglurder i unigolion cofrestredig, rheolwyr a sefydliadau ynglŷn â’r gwahanol lefelau ymarfer.
Os nad ydych chi’n siŵr beth yw lefel eich ymarfer, neu pa deitl(au) dylech chi ddefnyddio ar gyfer eich ymarfer, mae’r cyrff proffesiynol yn cynhyrchu adnoddau hefyd i roi arweiniad i aelodau ynglŷn â rhoi tystiolaeth o lefel eu hymarfer.
Er bod rheoleiddwyr statudol fel yr HCPC yn gwarchod y teitlau dynodedig ar gyfer proffesiynau, dydyn ni ddim yn pennu teitlau ar gyfer gwahanol lefelau ymarfer. Ceir amryw o deitlau swyddi ar draws y lefelau ymarfer uwch, a’r sefydliadau sy’n cyflogi sy’n eu pennu, nid y rheoleiddwyr. Mae’r teitlau swyddi, y tâl, amodau a thelerau yn amrywio rhwng gwahanol sefydliadau. Gallwch chi wirio llywodraethiant a gofynion lleol i gael canllawiau pellach ynglŷn â pha deitl(au) y gallwch ddefnyddio.
-
Mae’n bwysig cofio bod holl unigolion cofrestredig yr HCPC sy’n gweithio ar bob lefel gyrfa, gan gynnwys lefelau uwch, eisoes yn cael eu rheoleiddio’n llawn ac mae rhaid iddynt fodloni holl safonau’r HCPC sy’n berthnasol i gwmpas eu hymarfer. Mae’r HCPC yn gwneud penderfyniadau rheoleiddio annibynnol, ac rydyn ni’n seilio ein penderfyniadau ar ddata a thystiolaeth er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu i ddiogelu’r cyhoedd. Rhaid i’r holl unigolion cofrestredig ymgymryd â gweithgareddau DPP hefyd, a dylai eich DPP adlewyrchu cwmpas eich ymarfer (a all fodd fel ymarferydd uwch).
Gallwch chi ganfod rhagor o wybodaeth gennym ynglŷn â rheoleiddio a bodloni’r safonau presennol ar lefelau ymarfer uwch, wedi’i hysgrifennu ar y cyd â’r Cyngor Osteopatheg Cyffredinol.
-
Nid yw’r pedair colofn ymarfer yn ofyniad rheoleiddiol, ac ni fydd y lefel rydych chi’n gweithio arni ar draws y pedair colofn yma yn effeithio ar eich cofrestriad. Ar y lefelau uwch ac ymgynghorol, mae disgwyliad yn y gweithlu y bydd ymarferwyr yn dangos eu gallu i weithio’n ymreolus ar draws pob un o’r pedair colofn ymarfer. Er enghraifft, mae rhan o’r diffiniad o’r lefel ymarfer uwch, ar gyfer AHPs yn gosod y disgwyliad yn y gweithlu bod:
“Ymarfer Uwch yn y proffesiynau perthynol i iechyd yn golygu gwneud penderfyniadau cymhleth, wedi’u sylfaenu ar ddyfarniad ôl-gofrestru ar lefel meistr neu gyfatebol a gyflawnir gan ymarferydd profiadol ac sy’n ymgorffori pob un o’r pedair colofn ymarfer: ymarfer clinigol, arweinyddiaeth a rheolaeth, addysg, ac ymchwil. Mae’n cael ei ddarparu gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal galluog a phrofiadol sydd â lefel sylweddol o ymreolaeth, crebwyll a chyfrifoldeb yn eu rolau.”
-
Nid oes gan yr HCPC unrhyw reoleiddio na chydnabyddiaeth ychwanegol ar gyfer y gwahanol lefelau ymarfer.
Beth bynnag fo’r lefel rydych chi’n gweithio arni, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni safonau’r HCPC, sy’n cynnwys gweithio oddi mewn i derfynau cwmpas eich ymarfer a sicrhau bod eich DPP a gweithgareddau eraill yn berthnasol er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth.
Gallai ein templed myfyrio ynglŷn â diffinio ac egluro cwmpas eich ymarfer fod o gymorth i chi hefyd.
Os ydych chi’n awyddus i gael rhagor o gyngor ynglŷn â sut i ddangos a derbyn cydnabyddiaeth am lefel eich ymarfer, rydym yn argymell y dylech drafod â’ch corff proffesiynol yn ogystal â’ch fframweithiau cenedlaethol perthnasol.
-
Na fyddwch. Mae eich cymwysterau cyn-cofrestru a’r profiad y byddwch chi’n ei grynhoi wedi hynny yn helpu i ffurfio cwmpas eich ymarfer. Fel unigolyn cofrestredig sydd newydd gymhwyso, rydych chi’n ymarferydd ymreolus ac wrth i chi ennill profiad, ac mewn rhai achosion, cymwysterau ychwanegol, ar draws pob un o’r colofnau ymarfer, gallech chi symud ymlaen drwy wahanol lefelau. Mae'n bwysig cofio bod rhaid i chi weithio oddi mewn i derfynau cwmpas eich ymarfer bob amser, o bod y cwmpas hwnnw wedi’i ffurfio gan derfynau eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad.
Diffinio ac egluro cwmpas eich ymarfer ar lefelau uwch
Templed myfyrio i gefnogi eich crebwyll proffesiynol
Mater i chi ei benderfynu ydy beth sydd yn rhan o gwmpas eich ymarfer a beth sydd ddim wrth i chi wneud cynnydd yn lefel eich ymarfer, gan ddefnyddio eich crebwyll proffesiynol, yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr y gwasanaeth a gyda chefnogaeth gan y sefydliad rydych yn gweithio ynddo (os yw hynny’n berthnasol i chi).
ae’r templed hwn yn darparu diffiniadau a gweithgareddau myfyrio i’ch helpu i ddiffinio ac egluro:
- Cwmpas eich ymarfer fel unigolyn a chwmpas ymarfer eich proffesiwn
- Cwmpas eich ymarfer mewn perthynas â’r pedair colofn
- Lefel a chwmpas eich ymarfer ar y continwwm dechreuwr i arbenigwr a gwaith cyffredinol i waith arbenigol
Adnoddau pellach
Fframweithiau datblygu gyrfa cyrff proffesiynol
Mae eich cyrff proffesiynol yn ffynhonnell wych ar gyfer gwybodaeth a chyngor proffesiwn-benodol. Mae gan y rhan fwyaf o gyrff proffesiynol fframweithiau datblygu gyrfa (neu broffesiynol), ac mae llawer o’r rhain yn cyfeirio at lefelau ymarfer uwch. Gallwch chi fapio eich ymarfer i mewn i’r rhain, ochr yn ochr ag adnoddau amlbroffesiwn, er mwyn dangos lefel eich ymarfer a chanfod meysydd ar gyfer DPP parhaus.
Gallwch chi holi eich corff proffesiynol am fframweithiau fel hyn neu ddefnyddio eich porwr gwe i chwilio a chynnwys enw eich proffesiwn a/neu lefel ymarfer.
Fframweithiau ar gyfer gwledydd y Deyrnas Unedig
Cymru
- Fframwaith Proffesiynol ar gyfer Ymarfer Clinigol Estynedig, Uwch ac Ymgynghorol | Addysg a Gwella Iechyd Cymru
- Fframwaith Cymwyseddau Ymarferwyr Clinigol Uwch (ACP) – Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Gogledd Iwerddon
Lloegr
- Ymarfer estynedig | NHS England | Hyfforddiant ac addysg i’r gweithlu
- Fframwaith amlbroffesiwn ar gyfer ymarfer uwch 2025 | NHS England
- Fframwaith galluoedd ac effaith lefel ymgynghorol | NHS England
- Lefelau ymarfer - Ymarfer Uwch | NHS England
Yr Alban