Skip navigation
What's your experience of dealing with us? Let us know what works well and what we could do better in our short survey. Share your experience

Rheoleiddio lefelau ymarfer uwch

Mae’r holl unigolion cofrestredig sy’n gweithio ar lefelau uwch yn cael eu rheoleiddio’n llawn ac mae rhaid iddynt fodloni safonau rheoleiddiol sy’n berthnasol i gwmpas eu hymarfer.

Mae’r HCPC a’r Cyngor Osteopatheg Cyffredinol (GOsC) wedi cydweithio i greu Diweddariad ar y Cyd ar gyfer unigolion cofrestredig sy’n gweithio ar lefelau ymarfer uwch neu’n gweithio tuag at hynny mewn amryw o sectorau a lleoliadau, ac ar gyfer y rheolwyr amlbroffesiwn, arweinwyr strategol, cydweithwyr ac academyddion sy’n cefnogi datblygiad y gweithlu profiadol a hynod alluog hwn.

Gallwch chi weld neu lawrlwytho’r diweddariad llawn isod.

Cynulleidfa

Mae’r diweddariad hwn ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • unigolion cofrestredig sy’n gweithio ar lefelau ymarfer uwch neu’n dymuno gwneud hynny;
  • rheolwyr llinell unigolion cofrestredig sy’n gweithio ar lefelau ymarfer uwch neu’n dymuno gwneud hynny, ar draws sectorau;
  • rheolwyr gweithredol a strategol megis Arweinwyr Ymarfer Uwch mewn Ymddiriedolaethau GIG, Prif Arweinwyr Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP), Prif Nyrsys, Prif Arweinwyr Gwyddonwyr Gofal Iechyd (HCS);
  • cydweithwyr mewn timau amlbroffesiwn sy’n ceisio deall natur lefelau ymarfer uwch ar gyfer unigolion cofrestredig Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac unigolion cofrestredig y Cyngor Osteopatheg Cyffredinol (GOsC); neu
  • unigolion cofrestredig a chydweithwyr eraill sy’n gweithio mewn Sefydliadau Addysg Uwch yn cefnogi datblygiad y gweithlu.

Negeseuon allweddol 

  1. Mae holl unigolion cofrestredig yr HCPC a’r GOsC sy’n gweithio ar lefelau uwch eisoes yn cael eu rheoleiddio’n llawn ac mae rhaid iddynt fodloni safonau rheoleiddiol sy’n berthnasol i gwmpas eu hymarfer.
  2. Mae diogelwch defnyddwyr gwasanaethau yn gyfrifoldeb ar y cyd. Mae gan unigolion cofrestredig, rheoleiddwyr, cyflogwyr, cyrff proffesiynol, undebau ac eraill rolau pwysig a gwahanol yn sicrhau diogelwch.
  3. Nid yw’r HCPC na’r GOsC yn pennu nac yn cyfyngu ar gwmpas ymarfer unigolion cofrestredig, ond mae’n hanfodol bod unigolion cofrestredig yn defnyddio eu crebwyll proffesiynol i weithio o fewn eu cwmpas er mwyn sicrhau eu bod yn ymarfer yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn effeithiol.

Mae’r HCPC a’r GOsC wedi cydweithio i greu’r Diweddariad ar y Cyd hwn ar gyfer unigolion cofrestredig sy’n gweithio ar lefelau ymarfer uwch neu’n gweithio tuag at hynny mewn amryw o sectorau a lleoliadau, ac i reolwyr (cofrestredig ac amlbroffesiwn), arweinwyr strategol, cydweithwyr ac academyddion sy’n cefnogi datblygiad y gweithlu profiadol a hynod alluog hwn.

Mae’r diweddariad yn egluro’r sefyllfa bresennol parthed rheoleiddio lefelau ymarfer uwch ac yn atgyfnerthu’r modd y gall unigolion cofrestredig yr HCPC a’r GOsC sy’n gweithio ar y lefelau hyn barhau i fodloni eu safonau presennol ar draws amrywiaeth o deitlau swyddi, sectorau a lleoliadau.

Mae’r diweddariad hwn yn llywio’r ffordd drwy safonau proffesiynol rheoleiddiol ar lefelau ymarfer uwch, gan ganolbwyntio’n benodol ar gwmpas ymarfer / optimeiddio cwmpas, datblygu proffesiynol parhaus, dirprwyo a goruchwylio, er mwyn cael y gorau o’r gweithlu hwn er budd defnyddwyr y gwasanaethau.

Cafodd cynnwys y diweddariad hwn ei ddatblygu’n wreiddiol ar gyfer cyfres o weminarau a gomisiynwyd gan GIG Lloegr ac a gynhaliwyd ar y cyd gan yr HCPC a’r GOsC. Roedd cynnwys y gweminarau wedi’i ddylanwadu gan drafodaethau gyda chydweithwyr sy’n unigolion cofrestredig, rheolwyr, arweinwyr strategol, academyddion a chyrff proffesiynol.

Mae’n gorwedd hefyd ochr yn ochr â Datganiad pedair gwlad y Deyrnas Unedig ynglŷn ag ymarfer uwch yn y Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHPs) a ysgrifennwyd gan y Prif Swyddogion Proffesiynau Perthynol i Iechyd, gyda’r diweddariad yn ymwneud â’r trywydd datblygu gyrfa a gweithlu ehangach a amlinellwyd yn y datganiad (Atodiad A, adran 5), sef estynedig/arbenigol, uwch ac ymgynghorol.

Yn y diweddariad hwn, mae’r HCPC a’r GOsC yn defnyddio ‘lefelau ymarfer uwch’ fel term cwmpasog sy’n cynnwys y tair lefel ymarfer wahanol ar gyfer unigolion cofrestredig profiadol, sef ‘estynedig’/‘arbenigol’, ‘uwch’ ac ‘ymgynghorol’.

Mae'r derminoleg a ddefnyddir yn y Diweddariad ar y Cyd hwn yn adlewyrchu trafodaethau cyfoes. Fodd bynnag, mae hwn yn faes o fewn datblygu gweithlu lle mae’r termau’n amrywio rhwng sectorau a gwledydd y Deyrnas Unedig, ac mae’n bosib hefyd y byddant yn parhau i esblygu. Ceir rhestr eirfa o’r termau allweddol cyfredol a’r diffiniadau ar wefan yr HCPC.

Adnoddau pellach ar gyfer lefelau ymarfer uwch

Trefniadau rheoleiddiol presennol yr HCPC a’r GOsC: o addysg i gofrestru ac ymlaen i lefelau ymarfer uwch

Caiff cymwysterau cyn-cofrestru, er mwyn cael mynediad i’r cofrestri, eu darparu drwy raglenni addysg a gaiff eu cymeradwyo gan y rheoleiddwyr. Ceir nifer o lwybrau gwahanol ar gyfer ennill y cymwysterau hyn, gan gynnwys y llwybr prentisiaeth.

Bydd rhai unigolion cofrestredig yn cael mynediad i’r gweithlu drwy lwybrau meistr neu ddoethuriaethau cyn-cofrestru. Bydd angen i’r rhain hefyd ddatblygu eu galluoedd a’u profiad dros amser yn eu hymarfer, a bydd angen iddynt ymgymryd â dysgu a hyfforddiant pellach ôl-gofrestru, ac i rai, cymwysterau ychwanegol, er mwyn dangos eu bod yn gweithio ar lefelau ymarfer uwch.

Ar adeg cofrestru, disgwylir i bob unigolyn cofrestredig ymarfer fel gweithiwr proffesiynol ymreolus, gan ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol eu hunain. Rhaid iddynt barhau i fodloni safonau proffesiynol eu rheoleiddiwr, cymryd rhan weithredol mewn goruchwylio, bod â threfniant indemniad proffesiynol ar waith ar gyfer eu hymarfer (sy’n bodloni gofynion eu rheoleiddiwr) ac ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus sy’n berthnasol i gwmpas eu hymarfer, gan gymryd rhan mewn awditau o dro i dro yn ôl y gofyn.

Mae unigolion cofrestredig yr HCPC a’r GOsC, beth bynnag fo lefel eu hymarfer, eisoes yn cael eu rheoleiddio. Mae systemau ar waith i gynnal ymarfer diogel ac effeithiol, sy’n amrywio o safonau sy’n seiliedig ar ganlyniadau i brosesau addasrwydd i ymarfer a sancsiynau.  Mewn achosion difrifol, gallai hynny gynnwys dileu unigolyn cofrestredig o’r gofrestr ac felly eu hatal rhag ymarfer.

Rôl rheoleiddwyr ydy amddiffyn y cyhoedd. Mae’r HCPC a’r GOsC yn parhau i asesu’r risgiau mewn ymarfer, ar bob lefel gyrfa, gan fabwysiadu dull rheoleiddio’r cyffyrddiad cywir gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol. Mae’r dull hwn yn golygu edrych ar lefel y risg o niwed a dewis yr ymateb mwyaf effeithiol a chymesur, boed hynny drwy reoleiddio neu gamau gweithredu eraill.

Nid yw’r HCPC na’r GOsC yn pennu nac yn cyfyngu ar gwmpas ymarfer unrhyw unigolion cofrestredig – gallai gwneud hynny fod yn llestair diangen ar y ffordd y mae timau amlddisgyblaethol yn cydweithio a’r ffordd y mae rolau a gwasanaethau’n datblygu dros amser. Bydd unigolion cofrestredig profiadol yn gweithio gyda graddau cynyddol o ymreolaeth, er enghraifft, ar lefel ymarfer uwch, mae disgwyl i weithwyr proffesiynol weithredu gyda lefel sylweddol o ymreolaeth, crebwyll a chyfrifoldeb yn eu rolau.

Un rhan o ddarlun diogelwch ehangach ydy rheoleiddio. Mae gan yr unigolyn cofrestredig, y rheoleiddwyr, sefydliadau sy’n cyflogi (lle bo hynny’n berthnasol) a chyrff proffesiynol oll rôl rhagweithiol yn sicrhau ymarfer diogel ac effeithiol, gan weithio o fewn fframwaith cyfreithiol.

Mae dull system-gyfan, er enghraifft trefniadau llywodraethu clinigol sydd gan gyflogwyr ar waith, yn parhau i fod yn fesur diogelwch pwysig arall ar gyfer pob lefel ymarfer.

Sut mae’r safonau’n gweithio ar gyfer unigolion cofrestredig sy’n gweithio ar lefelau ymarfer uwch

Yn yr adran hon, byddwn yn amlinellu sut mae rheoleiddio ar sail canlyniadau yn gweithio a pham nad yw’n rhagnodol.

Bwriedir i’r safonau rheoleiddiol fod yn berthnasol i’r holl unigolion cofrestredig sy’n gweithio ym mhob rôl ar draws lleoliadau gwahanol, gan gynnwys mewn rolau ymarfer clinigol a phroffesiynol, academaidd, arwain, rheoli ac ymchwil. Pan fydd y safonau’n cyfeirio at ddefnyddwyr gwasanaethau, mae hynny’n golygu’r ystod eang o bobl y mae gwasanaethau proffesiynol unigolion cofrestredig yn effeithio arnynt, megis cleifion, teuluoedd, gofalwyr, myfyrwyr a dysgwyr, cydweithwyr, pobl y mae unigolyn cofrestredig yn rheolwr llinell arnynt, a mwy.

Mae’r HCPC a’r GOsC ill dau yn mabwysiadu’r un dull o reoli’r cyhoedd drwy reoleiddio sy’n seiliedig ar ganlyniadau (OBR). Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd canolbwyntio ar ganlyniadau ac effeithiau gwasanaethau unigolion cofrestredig, yn hytrach na’r prosesau a ddefnyddir.

Y dull OBR ydy un o’r rhesymau pam nad yw’r safonau wedi’u cynllunio fel rhestr o weithgareddau a reoleiddir (canolbwyntio ar fewnbynnau). Yn ogystal, gallai canolbwyntio ar gydymffurfio â rhestr o brosesau lesteirio arloesedd a lleihau hyblygrwydd proffesiynau a reoleiddir i ymateb yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion bythol newidiol pobl a phoblogaethau.

Mae OBR yn annog rheoleiddwyr i gydweithio ag ystod eang o sefydliadau a phobl, gan gydnabod mai un rhan o ddarlun diogelwch ehangach ydy rheoleiddio.

Gallwch gyfeirio at Bodloni’r safonau am ragor o wybodaeth.

Diffinio lefelau ymarfer uwch

Yn yr adran hon, byddwn yn diffinio’r tair lefel ymarfer (estynedig/arbenigol, uwch, ymgynghorol) sydd yn ffurfio fframwaith datblygu gyrfa a gweithlu ar ôl cwblhau'r camau gyrfa cynharach.

Y tair lefel ymarfer uwch ydy estynedig/arbenigol, uwch, ac ymgynghorol. I unigolion cofrestredig, gallai’r lefelau ymarfer eu helpu i adnabod cwmpas eu hymarfer a meysydd ar gyfer datblygu proffesiynol parhaus, wrth iddynt barhau i weithio fel ymarferwyr ymreolus.

Mae’r geiriad ar gyfer y lefelau ymarfer uwch yn amrywio ychydig rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig. Defnyddir ‘arbenigol’ yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond yng Nghymru a Lloegr, defnyddir ‘estynedig’ i ddisgrifio’r un lefel. Mae’r dulliau cyffredinol o weithio, gan gynnwys y disgrifiadau o bob lefel ymarfer yn cyfateb yn agos i’w gilydd.

Ceir nifer o rolau a theitlau swyddi gwahanol ar draws sectorau ar y lefelau ymarfer hyn. Mae rhai rolau yn cadw o fewn proffesiynau unigol tra bydd rhai eraill mewn rolau amlbroffesiwn.

Mae’r diffiniadau o’r lefelau ymarfer uwch (estynedig/arbenigol, uwch ac ymgynghorol) yn deillio o sectorau’r gwasanaeth iechyd gwladol ar draws y Deyrnas Unedig, felly mae’n bosib y byddant yn teimlo’n llai cyfarwydd i unigolion cofrestredig sy’n gweithio mewn rolau ar draws y system iechyd a gofal ehangach. Fodd bynnag, mae’r derminoleg, neu amrywiaethau o’r derminoleg honno wedi’i mabwysiadu’n eang mewn adnoddau sy’n berthnasol i unigolion cofrestredig sy’n gweithio ar draws sectorau. Er enghraifft, mae’r lefelau ymarfer i’w gweld mewn rhai fframweithiau datblygu gyrfa gan gyrff proffesiynol.

Nid yw’r lefelau ymarfer yn ofyniad rheoleiddiol. Datblygwyd nhw fel rhan o waith sydd ar y gweill i ddarparu eglurder ynglŷn â dilyniant o fewn gyrfaoedd, ac i gefnogi’r addysg, hyfforddiant, llywodraethiant a throsolwg sefydliadol sydd eu hangen er mwyn cefnogi datblygiad rolau ar gyfer gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes iechyd a gofal.

Rhagor o wybodaeth ynglŷn â Beth yw lefelau ymarfer uwch?

Mae ymarfer diogel ac effeithiol yn gyfrifoldeb ar y cyd ar gyfer lefelau ymarfer uwch

Yn yr adran hon, byddwn yn cadarnhau bod angen dull rhagweithiol system-gyfan er mwyn gwneud gofal iechyd yn ddiogel ac yn effeithiol, ac yn amlinellu gofynion er mwyn dangos sut mae hynny’n edrych yn ymarferol.

Mae rheoleiddio proffesiynol yn rhan o ddarlun diogelwch ehangach ac ar ei ben ei hun, nid yw’n gwarantu ymarfer diogel, ac mae hynny’n cynnwys lefelau ymarfer uwch.

Mae’r HCPC a’r GOsC yn pennu safonau ar gyfer ein hunigolion cofrestredig er mwyn amddiffyn y cyhoedd. Mae’r safonau hyn yn sicrhau bod unigolion cofrestredig yn derbyn yr addysg angenrheidiol er mwyn cael eu derbyn i’w cofrestr ac yn pennu’r fframwaith moesegol y mae rhaid iddynt ei fodloni tra byddant yn gofrestredig.

Mae ymarfer diogel ac effeithiol yn gyfrifoldeb ar y cyd rhwng unigolion cofrestredig, rheoleiddwyr iechyd a gofal (rheoleiddwyr gofal iechyd proffesiynol fel yr HCPC a’r GOsC a rheoleiddwyr system), y sefydliad sy’n cyflogi (lle bo hynny’n berthnasol) a chyrff proffesiynol, gyda phob un ohonynt yn cydweithio o fewn fframwaith cyfreithiol.

Rhaid i sefydliadau sy’n cyflogi sicrhau bod y canlynol ar waith ganddynt:

  • trosolwg eglur gan arweinwyr ac atebolrwydd dros y gweithlu;
  • dealltwriaeth gyson o lefelau ymarfer uwch, gan gynnwys ar y lefel weithredol;
    polisïau a phrosesau gweithlu i gefnogi lefelau ymarfer uwch, gan gynnwys ar gyfer goruchwylio, dirprwyo ac optimeiddio cwmpas
  • cynllunio cadarn ar gyfer y gweithlu, gan gynnwys cynllunio gwasanaethau a defnyddio’r gweithlu;
  • cefnogaeth gyson i’r gweithlu, gan gynnwys addysg, hyfforddiant a goruchwylio er mwyn bodloni gofynion rheoleiddiol;
  • disgrifiadau swyddi sy’n mapio i’r pedair colofn ymarfer; a
  • cwmpasau ymarfer diffiniedig sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd.

Mae cyrff proffesiynol yn darparu arweiniad a chefnogaeth ar gyfer proffesiynau penodol mewn perthynas â chwmpas ymarfer, eiriolaeth a chyngor, ymchwilio, a chefnogaeth i dwf proffesiynol a datblygu proffesiynol parhaus.

Gallai aelodaeth o gorff proffesiynol gynnwys trefniadau indemniad proffesiynol, ond mewn rhai achosion, gall fod angen i unigolion cofrestredig wneud trefniadau ychwanegol, yn ddibynnol ar gwmpas eu hymarfer fel unigolyn.



Diffinio cwmpas ymarfer: unigolyn a phroffesiwn

Yn yr adran hon, byddwn yn ymdrin â chwmpas ymarfer a’r ddwy elfen ryngberthynol: unigolyn a phroffesiwn. Gwneir cysylltiadau rhwng crebwyll proffesiynol, cwmpas ymarfer a threfniadau ar gyfer indemniad proffesiynol.

Mae cwmpas ymarfer yn cyfeirio at yr ystod o gyfrifoldebau a gweithgareddau y mae unigolyn cofrestredig yn gymwys ac yn alluog i’w cyflawni ar sail eu haddysg, hyfforddiant a phrofiad.

Fel y nodwyd uchod, mae rheoleiddio ar sail canlyniadau yn golygu nad yw’r HCPC na’r GOsC yn pennu nac yn cyfyngu ar gwmpas ymarfer unigolyn cofrestredig. Mae’n hanfodol bod unigolion cofrestredig yn defnyddio eu crebwyll proffesiynol i weithio o fewn eu cwmpas er mwyn sicrhau eu bod yn ymarfer yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn effeithiol.

Mae cwmpas ymarfer yn broses fyw sy’n cynnwys dwy elfen ryngberthynol: cwmpas ymarfer unigolyn a chwmpas ymarfer proffesiwn. Bydd y ddwy elfen yn esblygu ac yn newid dros amser.

Gallai cwmpas ymarfer unigolyn ymestyn y tu hwnt i’r ffiniau a gydnabyddir yn gyffredinol ar gyfer y proffesiwn gwreiddiol gyda phrofiad, addysg, hyfforddiant a throsolwg sefydliadol priodol.

Mae o’r pwys mwyaf bod unigolion cofrestredig, rheolwyr a sefydliadau yn gallu mynegi a darparu tystiolaeth o gwmpas eu hymarfer fel unigolyn a phroffesiwn, gan gynnwys y ffordd maent yn gweithio i ddiwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth yn effeithiol, a’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymwysterau a enillwyd er mwyn gallu gwneud hynny.

Gallwch chi lawrlwytho templed myfyrio er mwyn helpu i ddiffinio ac egluro cwmpas eich ymarfer ar lefelau ymarfer uwch.

Rhaid i unigolion cofrestredig sicrhau bod ganddynt drefniadau indemniad proffesiynol ar waith a bod hynny’n darparu lefel briodol o yswiriant, gan gynnwys ar gyfer cwmpas eu hymarfer fel unigolyn.

Cwmpas ymarfer, datblygu proffesiynol parhaus (DPP) ac anghenion defnyddwyr gwasanaethau

Mae’r adran hon yn egluro sut mae unigolion cofrestredig yn bodloni’r gofynion ar gyfer adnewyddu eu cofrestriad a DPP pan fyddant yn gweithio ar lefelau ymarfer uwch.

Bydd unigolion cofrestredig ar lefelau ymarfer uwch yn parhau i ddatblygu ar draws pob un o’r pedair colofn ymarfer (ymarfer clinigol, addysg, arweinyddiaeth ac ymchwil) sy’n berthnasol i gwmpas eu hymarfer fel unigolyn a phroffesiwn.

Mae cyrff proffesiynol, mewn cydweithrediad â rheoleiddwyr, yn cefnogi esblygiad cwmpas ymarfer proffesiwn.

Rhaid i unigolion cofrestredig roi tystiolaeth o’r ffordd y mae eu DPP yn eu cynorthwyo i esblygu cwmpas eu hymarfer mewn modd priodol er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau (gan gydnabod bod y term ‘defnyddwyr gwasanaethau’ yn un eang).

Mae DPP a dysgu gydol oes yn gyfrifoldeb i bob unigolyn ac mae angen i gyflogwyr wneud hynny’n bosib a’i gefnogi gan gynnwys neilltuo amser wrth oruchwylio i ganfod cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu parhaus.

Teitlau swyddi ar lefelau ymarfer uwch

Mae’r adran hon yn ymdrin ag un o’r cwestiynau a ofynnir amlaf i ni er mwyn egluro nad oes cysylltiad, o safbwynt rheoleiddiol, rhwng teitlau swyddi a lefelau ymarfer uwch.

Ceir amryw o deitlau swyddi ar draws y lefelau ymarfer uwch, a’r sefydliadau sy’n cyflogi sy’n eu pennu, nid y rheoleiddwyr. Mae’r teitlau, y tâl, amodau a thelerau yn amrywio rhwng gwahanol sefydliadau.

Mae’r diffyg eglurder yn y myrdd o deitlau yn gallu peri dryswch i’r cyhoedd, yn enwedig pan nad yw’r teitl gwarchodedig yn rhan o deitl y swydd.

Mae ymdrechion ar y gweill ar draws y Deyrnas Unedig i sicrhau eglurder i unigolion cofrestredig, rheolwyr a sefydliadau ynglŷn â llwybrau tuag at wahanol lefelau ymarfer, ynghyd â’r trefniadau llywodraethu a throsolwg i’w cefnogi. Mae hyn yn cynnwys gwaith gan NHS Education Scotland i safoni teitlau a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar lefel ymarfer uwch.

Mae’r HCPC a’r GOsC yn cefnogi’r gwaith diweddar yn yr Alban lle mae fformat teitlau swyddi cenedlaethol ar gyfer rolau ymarfer uwch gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd wedi’i gytuno er mwyn sicrhau gwell eglurder a chysondeb i’r cyhoedd a’r gweithlu yn ehangach. Y fformat yw: ‘[enw’r proffesiwn] Ymarfer Uwch’. Ceir opsiwn hefyd i gynnwys arbenigedd clinigol, sydd yn rhoi teitlau megis ‘Therapydd Galwedigaethol Ymarfer Uwch mewn Eiddilwch’. Mae hynny’n nodi lefel yr ymarfer ac yn defnyddio'r teitl proffesiynol gwarchodedig o Gofrestr yr HCPC.

Rôl rheolwyr a sefydliadau yn cefnogi unigolion cofrestredig ar lefelau ymarfer uwch

Mae'r adran hon yn amlinellu ffyrdd y gall rheolwyr ein hunigolion cofrestredig eu cynorthwyo i fodloni eu safonau, gan gynnwys trwy bolisïau a phrosesau gweithredol ar gyfer goruchwylio a dirprwyo, gan gydnabod nad yw pob unigolyn cofrestredig yn gweithio mewn sefydliad.

Unigolion, nid sefydliadau sy’n cael eu rheoleiddio gan yr HCPC a’r GOsC.  Felly, mae’r safonau rheoleiddiol yn canolbwyntio ar y gofynion sydd ar unigolion cofrestredig. Fel y soniwyd uchod, mae ymarfer diogel ac effeithiol yn gyfrifoldeb y cyd. Mae angen i reolwyr a sefydliadau gefnogi eu staff er mwyn iddynt fodloni eu gofynion rheoleiddiol. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am hyn ar ein Hafan Cyflogwyr.

Rydym yn cydnabod nad ydy pob unigolyn cofrestredig yn gweithio mewn sefydliad, felly mae’n bosib na fydd hyn yn berthnasol i bawb.

Mae cynorthwyo unigolion cofrestredig i optimeiddio cwmpas eu hymarfer ar lefelau ymarfer uwch yn galluogi timau a sefydliadau i wneud y defnydd gorau o’r gweithlu o safbwynt eu hamser, eu gwybodaeth a’u sgiliau, er budd defnyddwyr gwasanaethau.

Mae ‘optimeiddio cwmpas’ yn ymadrodd sy’n golygu canfod ffyrdd o wneud y defnydd gorau o’r gweithlu cyfan ar bob lefel ymarfer, o safbwynt eu hamser, eu gwybodaeth a’u sgiliau, er budd defnyddwyr gwasanaethau.  Gellir cyflawni optimeiddio cwmpas drwy ddirprwyo effeithiol ar draws yr holl weithlu, gan gynnwys dirprwyo i'r gweithlu ategol.

Gweithgaredd perthynol ydy dirprwyo, nid un trafodaethol. Rhaid bod unigolyn y dirprwyir gweithgaredd iddynt yn gallu cwblhau’r gweithgaredd, yn derbyn cefnogaeth a goruchwyliaeth, yn gwybod sut i geisio arweiniad pan fydd angen, neu sut i wrthod cyflawni’r gweithgaredd a ddirprwyir os byddant yn teimlo ei fod y tu hwnt i gwmpas eu hymarfer nhw eu hunain.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am ddirprwyo ar ein Hafan Cyflogwyr.

Rhaid i reolwyr a sefydliadau sicrhau bod ganddynt bolisïau, prosesau a threfniadau llywodraethu ar waith, gan gynnwys ar gyfer cwmpas ymarfer, datblygu proffesiynol parhaus, goruchwylio a dirprwyo.

Diolchiadau

Hoffai’r HCPC a’r GOsC gydnabod yr arbenigedd a rannwyd gan gydweithwyr o gyrff proffesiynol, academyddion, arweinwyr strategol, unigolion cofrestredig, rheolwyr a chydweithwyr yn y systemau gofal iechyd a rheoleiddio ehangach, a diolch iddynt am eu cyfraniadau i’r Diweddariad ar y Cyd hwn.

Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 22/05/2026