Skip navigation

Yr hyn a wnawn

Rydym yn cadw cofrestr o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal sy'n bodloni ein safonau o ran eu hyfforddiant, eu sgiliau proffesiynol, eu hymddygiad a’u hiechyd.

Er mwyn gwneud hyn, rydym yn cadw cofrestr o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal sy'n bodloni ein safonau o ran eu hyfforddiant, eu sgiliau proffesiynol, eu hymddygiad a’u hiechyd.

Ein Cofrestr

Un o'n prif swyddogaethau yw cynnal a chyhoeddi Cofrestr o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal sy'n bodloni ein safonau.

Edrych ar ein Cofrestr

Cymeriad

Pan fydd gweithiwr iechyd a gofal yn ymgeisio am gofrestriad gyda ni, rhaid iddo roi gwybod i ni am unrhyw gollfarnau neu rybuddion troseddol sydd ganddo (heblaw am gollfarn warchodedig neu rybudd gwarchodedig). Rydym hefyd angen gwybodaeth ganddo os oes unrhyw reolydd arall wedi penderfynu bod yna bryderon am ei ymarfer neu ymddygiad (naill ai reoleiddiwr yn y Deyrnas Unedig neu broffesiwn arall, neu reoleiddiwr tu allan i’r Deyrnas Unedig).

Tra bydd gweithiwr wedi cofrestru gyda ni, os yw’n cael ei gollfarnu neu'n derbyn rhybudd, yna bydd yr heddlu yn ein hysbysu. Mae gan gofrestryddion hefyd gyfrifoldeb i roi gwybod i ni am unrhyw wybodaeth neu gollfarnau neu rybuddion a dderbyniont tra’u bod wedi cofrestru.

Iechyd

Rhaid i ni wirio iechyd pawb sy’n ymgeisio i ymuno â’n Cofrestr. Mae hyn i sicrhau bod ymgeiswyr yn gallu gweithio’n ddiogel ac effeithiol o fewn eu proffesiwn. Mae hefyd angen i gofrestryddion roi gwybod i ni am unrhyw newid i’w iechyd sy’n effeithio ar eu gallu i ymarfer eu proffesiwn naill ai yn rhan o’r broses adnewyddu cofrestriad neu ar unrhyw adeg yn ystod y cofrestriad. Gallwn hefyd weithredu i ddiogelu’r cyhoedd os bydd iechyd cofrestrydd yn codi pryderon am ei allu i ymarfer yn ddiogel ac effeithiol.

Pryderon

Os nad yw unigolyn cofrestredig yn bodloni ein safonau, gallwn gymryd camau a allai gynnwys eu hatal rhag ymarfer. Mae hyn yn golygu os ydych yn anfodlon ar y driniaeth neu'r gofal a gewch, neu'n poeni am ymddygiad neu iechyd gweithiwr cofrestredig, gallwch chi bob amser godi eich pryderon gyda ni.

Codi pryder

Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 06/09/2018
Top