Rheolwr cofrestredig yn yr Alban sydd eisiau datblygu rôl ymarfer uwch newydd o fewn eu tîm.

Mae Shona yn Arweinydd AHP ar gyfer Bwrdd GIG mawr yn yr Alban. Mae hi’n gyfrifol am ddatblygu rolau ymarfer uwch AHP o fewn y Bwrdd, gan gynnwys cyflwyno rolau dan hyfforddiant fel llwybr i mewn i’r lefel ymarfer uwch.
Agwedd
Mae ei dull o weithio’n cael ei lywio gan Bapur 9 Trawsnewid Rolau: ymarfer uwch proffesiynau perthynol i iechyd. Mae hi’n defnyddio’r fformat diffiniadau a theitlau swyddi a gytunwyd yn genedlaethol i’w chynorthwyo gyda chynllunio’r gweithlu. Mae’r Fethodoleg Trawsnewid Rolau yn darparu dull strwythuredig o weithio i Shona er mwyn sicrhau bod rolau ymarfer uwch AHP yn cael eu cydosod ag anghenion defnyddwyr gwasanaethau, ysgogwyr newid, a’r sylfaen tystiolaeth. Mae'r fethodoleg yn cefnogi:
- diffinio diben a chwmpas rolau;
- sefydlu llwybrau addysg a hyfforddiant priodol sydd wedi’u cydosod â lefel 7 ar Fframwaith Datblygu AHP NHS Education for Scotland; a
- modelu cyllidol cadarn.
Mae Shona’n deall bod y safonau rheoleiddiol a bennwyd gan yr HCPC yn berthnasol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar lefel ymarfer uwch. Mae hi’n cydnabod pwysigrwydd y safonau ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar gyfer datblygu rolau ymarfer uwch AHP mewn modd priodol. Fel rhan o gynllun y gweithlu, mae hi’n rhoi sylw i’r trefniadau llywodraethu angenrheidiol, gan gynnwys goruchwyliaeth briodol, addysg, hyfforddiant a datblygu.
Mae Shona’n sicrhau y caiff gweithwyr dan hyfforddiant eu cefnogi drwy diwtoriaeth strwythuredig gyda goruchwyliwr addysgol a goruchwyliwr ymarfer/clinigol, a’r ail o’r rhain yn gweithio gyda’r unigolyn dan hyfforddiant ar y broses gymeradwyo amlweddog o fewn eu Portffolio Proffesiynol NHS Education for Scotland.
I ddangos gwerth rôl y gweithiwr dan hyfforddiant, mae Shona’n canfod ffyrdd o fesur yr effaith a gwerthuso o’r cychwyn, gan gynnwys manteision i ofal defnyddwyr y gwasanaeth.