Unigolyn cofrestredig sy’n dirprwyo gweithgareddau gofal iechyd i ofalwyr o fewn gofal cymdeithasol.

Mae Dylan yn ffisiotherapydd profiadol sy’n gweithio i elusen sy’n cefnogi pobl sydd ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr yng ngogledd Lloegr.
Agwedd
Fel rhan o'i rôl, mae’n dirprwyo gweithgareddau gofal iechyd i staff a gofalwyr yn y ganolfan ddydd. Yn yr achos hwn, mae’n dirprwyo gweithgareddau symudedd cyffredinol, fel ymarfer gydag offer cymorth symudedd newydd a gwneud ymarferion coesau tra’n eistedd. Mae’n gweithio gyda’r staff a defnyddwyr y gwasanaeth i ganfod y gweithgareddau gofal iechyd dirprwyedig sydd yn iawn iddyn nhw, ac mae’n deall pwysigrwydd dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae Dylan yn gyfarwydd â safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg yr HCPC sy’n ymwneud â dirprwyo. Mae’n gwybod bod dirprwyo yn broses barhaus a ddatblygir ar sail perthnasoedd, yn rhannol er mwyn sicrhau mai dim ond i bobl sydd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgareddau yn ddiogel ac yn effeithiol y mae’n dirprwyo gwaith. Mae’n cyfeirio hefyd at adnoddau gan Skills for Care, gan gynnwys yr egwyddorion arweiniol ar gyfer gweithgareddau gofal iechyd a ddirprwyir.
Mae rheolwr, staff, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth y ganolfan ddydd yn gwybod sut i gysylltu a Dylan os bydd ganddynt unrhyw bryderon neu os bydd newid yn yr anghenion. Mae’n darparu hyfforddiant diweddaru yn rheolaidd, yn cefnogi aelodau staff newydd ac yn gwerthuso cynnydd defnyddwyr y gwasanaeth yn rheolaidd.
Mae adborth gan reolwyr, staff a defnyddwyr y gwasanaeth yn dwyn sylw at effaith gadarnhaol dull Dylan o weithio, gan gynnwys cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddwyr y gwasanaeth fod yn fwy actif yn gorfforol.