Skip navigation

Egwyddorion Tiwtoriaeth

Helpu gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal drwy gyfnodau pontio yn eu gyrfa

Bwriedir i’r Egwyddorion Tiwtoriaeth a’r wybodaeth ategol a amlinellir yn y ddogfen hon gynorthwyo’r holl weithwyr proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda’r HCPC* i dderbyn Tiwtoriaeth pryd bynnag a ble bynnag y bydd ei hangen arnynt, er mwyn eu cefnogi mewn cyfnodau pontio allweddol yn eu gyrfaoedd, ac i’w helpu i ddarparu gofal diogel, tosturiol sydd o ansawdd uchel.

Rydym yn gwybod bod cyfnodau pontio, megis ymuno â’r gweithlu fel un sydd newydd gofrestru, gweithio yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf neu ddychwelyd ar ôl cyfnod hir o fod allan o’r gweithlu, yn gallu bod yn heriol i unigolion. Mae rhaglenni Tiwtoriaeth sydd ag adnoddau da ac sydd wedi’u teilwra yn cynnig cefnogaeth ar adegau fel hyn i rai sydd wedi cofrestru gyda’r HCPC, gan roi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt mewn modd sy’n cyfateb i’w hamgylchiadau unigol.

Rydym wedi datblygu’r Egwyddorion hyn ar y cyd, gan weithio gyda’r cyrff proffesiynol sy’n cynrychioli y rhai sydd wedi cofrestru gyda ni yn ogystal â gweithio gydag unigolion cofrestredig. Rydym hefyd wedi ymgysylltu ag awdurdodau addysg a hyfforddiant ym mhedair cenedl y Deyrnas Unedig, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r trefniadau Tiwtoriaeth presennol a’r rhai sy’n datblygu ym mhob cenedl.

Egwyddorion Tiwtoriaeth

Expand all

  • Rhaglen strwythuredig o gefnogaeth a datblygu proffesiynol ydy Tiwtoriaeth, wedi’i
    chynllunio gyda’r bwriad o wella hyder unigolion cofrestredig mewn cyfnodau o
    bontio i unrhyw rôl newydd.

    Mae Tiwtoriaeth yn cyfrannu at ddiwylliant sefydliadol lle bydd unigolion
    cofrestredig yn derbyn cefnogaeth i gyflawni eu potensial tra byddant yn darparu
    gofal a thriniaethau diogel ac effeithiol.

    Dylai Tiwtoriaeth effeithiol:

    a) fod wedi’i hymgorffori yn systemau gweithlu a sefydliadol y sefydliad er mwyn galluogi mynediad ac ymgysylltiad gan Diwtoreion;

    b) cydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb ac ystyried polisïau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant cenedlaethol a lleol;

    c) darparu cyfleoedd i Diwtoreion ddatblygu hyder a chefnogi eu gyrfa yn y dyfodol;

    d) rhoi blaenoriaeth i iechyd a lles Tiwtoreion a Thiwtoriaid; a

    e) Hyrwyddo diwylliant o ddysgu, hunanfyfyrio ac ymarfer diogel

  • Mae Tiwtoriaeth yn fuddsoddiad pwysig yng ngyrfa broffesiynol unigolion cofrestredig.

    Dylai pob unigolyn cofrestredig gael mynediad at raglen Tiwtoriaeth o ansawdd. Mae’n dangos gwerth iechyd, lles a hyder unigolion cofrestredig yn ystod cyfnodau pontio.

    Er mwyn galluogi Tiwtoriaethau effeithiol, dylai fod:

    a) prosesau er mwyn sicrhau y gall unigolion cofrestredig dderbyn Tiwtoriaeth sy’n bodloni eu hanghenion unigol;

    b) prosesau ar waith i gefnogi cymysgedd briodol o ddysgu a datblygu proffesiwn-benodol, aml-broffesiwn ac un-broffesiwn o fewn sefydliadau neu gyda rhwydweithiau systemau a phroffesiynol ehangach;

    c) integreiddio gyda rhaglenni sefydlu i swyddi proffesiynol lle bo hynny’n briodol;

    d) cydnabyddiaeth o effaith heriau systemau a sut i’w lliniaru;

    e) systemau ar waith i fonitro, gwerthuso ac adolygu rhaglenni Tiwtoriaeth;

    f) fframweithiau llywodraethu proffesiynol a sefydliadol sy’n galluogi archwilio ac adrodd ar y broses; a

    g) dealltwriaeth o, a chydymffurfio â, pholisïau cenedlaethol a lleol, a’r gofynion llywodraethu perthnasol sy’n ofynnol gan bedair gwlad y Deyrnas Unedig.

  • Dylai Tiwtoriaeth gael ei theilwra ar gyfer y Tiwtorai unigol, eu swydd a’u hamgylchedd gwaith.

    Ni ddylai Tiwtoriaeth ailbrofi cymhwysedd clinigol ond yn hytrach, dylai rymuso’r Tiwtorai i fyfyrio ar yr hyn maent yn ei gynnig i’w swydd a chanfod pa gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn datblygu eu hyder proffesiynol.

    Dylai Tiwtoriaeth effeithiol ddarparu’r canlynol i unigolion cofrestredig:

    a) Mynediad at raglen Tiwtoriaeth sy’n meithrin pwysigrwydd datblygu proffesiynol parhaus;

    b) adnoddau a chanllawiau priodol ar gyfer datblygu hyder a chefnogi datblygiad proffesiynol parhaus;

    c) rhaglen wedi’i theilwra o gefnogaeth a dysgu sy’n adlewyrchu anghenion unigol;

    d) Tiwtor penodedig ar gyfer cyfnod cyfan eu Tiwtoriaeth; a

    e) ymreolaeth sy’n caniatáu iddynt ddylanwadu ar hyd a chynnwys eu Tiwtoriaeth mewn partneriaeth â’u Tiwtor, pobl eraill yn eu sefydliad a rhwydweithiau proffesiynol ehangach.

  • Mae rôl y Tiwtor yn rhan hollbwysig o Diwtoriaeth effeithiol. Dylai Tiwtoriaid gael hyfforddiant, amser a chefnogaeth priodol i allu deall a chyflawni eu rôl.

    Nid oes rhaid i Diwtoriaid fod o’r un proffesiwn â’r Tiwtoreion, ond dylid sicrhau mai nhw yw’r unigolion mwyaf priodol i ddarparu cefnogaeth.

    Mewn Tiwtoriaethau effeithiol, dylai’r Tiwtoriaid:

    a) weithredu fel model rôl proffesiynol a bod yn gefnogol, yn adeiladol ac yn dosturiol eu ffordd;

    b) helpu i hwyluso agweddau aml-broffesiwn ar y Diwtoriaeth lle bo hynny’n briodol;

    c) cynorthwyo Tiwtoreion i fyfyrio ar eu datblygiad a’u cyfeirio at gefnogaeth a chyfleoedd datblygu perthnasol;

    d) cynorthwyo Tiwtoreion i ymgysylltu â’u proffesiwn yn ehangach, a helpu i ddatblygu rhwydweithiau yn lleol neu drwy rwydweithiau proffesiynol allanol;

    e) rhannu ymarfer effeithiol a dysgu gan ei gilydd;

    f) cael eu hannog i weld manteision personol a phroffesiynol ymgymryd a rôl Tiwtor; a

    g) chael mynediad at adborth ynglŷn ag ansawdd ac effeithiau pob agwedd ar eu gwaith fel Tiwtoriaid.

  • Dylai rhaglenni Tiwtoriaeth adlewyrchu’r gwahaniaethau yn y llwybrau tuag at gofrestru, amrediad a dwyster profiadau ymarfer blaenorol, a’r amrywiaeth o wasanaethau a lleoliadau y mae unigolion cofrestredig yn gweithio ynddynt.

    Mae’r Egwyddorion hyn yn berthnasol i bob unigolyn cofrestredig sy’n gweithio mewn unrhyw leoliad iechyd neu ofal cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig,
    gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r GIG, y sector gofal cymdeithasol, a’r sectorau annibynnol ac elusennol.

    Dylai rhaglenni Tiwtoriaeth:

    a) gael eu teilwra i roi ystyriaeth i’r amgylchedd y mae’r Tiwtorai penodol yn gweithio ynddo;

    b) bod yn hyblyg er mwyn cefnogi cyfnodau pontio o wahanol fathau mewn modd amserol;

    c) bod â hyblygrwydd i allu darparu themâu cyffredin Tiwtoriaeth mewn modd aml-broffesiwn yn ogystal â sicrhau y caiff elfennau penodol i broffesiwn eu darparu lle bo angen;

    d) bod â chynllun strwythuredig sy’n disgrifio sut mae’r rhaglen yn darparu llwyddiant i’r Tiwtoreion;

    e) amrywio o ran hyd a chynnwys yn ôl anghenion y Tiwtorai unigol a’r sefydliad. Gall gwledydd, rhanbarthau neu sefydliadau unigol osod lleiafswm neu fwyafswm ar gyfer hyd Tiwtoriaeth; a

    f) bod yn ymwybodol o, ac yn gydnaws â, rhaglenni datblygu eraill ar gyfer proffesiynau penodol a’r gweithlu.

Defnyddio Egwyddorion Tiwtoriaeth yr HCPC

Datblygwyd yr egwyddorion hyn yn dilyn ymgynghori helaeth gydag unigolion proffesiynol sy’n cael eu rheoleiddio gan yr HCPC a’r cyrff a’r grwpiau proffesiynol sy’n eu cynrychioli.

Maent wedi’u hysgrifennu i gwmpasu’r 15 proffesiwn a’r 33 teitl rydym yn eu rheoleiddio, er mwyn cefnogi’r rhai rydym yn eu rheoleiddio, ym mhob un o’r lleoliadau y maent yn gweithio ynddynt, a chan gydnabod y gwahanol drefniadau cyflogi sydd ar waith ar draws y systemau iechyd a gofal yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru.

Mae’r pum Egwyddor yn eang o ran eu strwythur, fel bod modd eu defnyddio’n rhwydd ar draws yr ystod o weithleoedd y mae’r rhai sy’n gofrestredig gyda ni yn gweithio ynddynt a’r amrywiaeth o drefniadau cytundebol sydd ganddynt.

Rydym eisiau i’r rhai sy’n gofrestredig gyda ni eu defnyddio er mwyn derbyn rhaglenni Tiwtoriaeth lle byddant ar gael, neu i’w helpu i lywio’r modd y caiff rhai newydd eu creu lle na fyddant ar gael.

Ein bwriad ydy i’r rhai sy’n cynnal neu’n sefydlu rhaglenni Tiwtoriaeth eu defnyddio fel canllaw, er mwyn sicrhau bod y rhaglenni’n bodloni anghenion y rhai sy’n gofrestredig gyda’r HCPC ac yn cefnogi gwelliannau yn ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu darparu.

 

Gwybodaeth ategol

Mae’r wybodaeth ategol wedi’i hysgrifennu gyda golwg ar helpu’r unigolion cofrestredig a’r rhai sy’n darparu Tiwtoriaethau i ddefnyddio’r Egwyddorion yn eu gweithleoedd a’u hymarfer.

Rydym yn credu bod gan gefnogaeth Tiwtoriaeth a ddarperir yn dda rôl allweddol i'w chwarae yn cefnogi’r rhai sydd wedi cofrestru gyda’r HCPC a’r rhai fydd yn cofrestru yn y dyfodol, gan eu helpu i gyflawni eu potensial a bodloni anghenion y rhai y byddant yn eu gwasanaethu yn llawn ac yn hyderus.

 
* Yr HCPC ydy’r rheoleiddiwr ar gyfer 15 o broffesiynau iechyd a gofal: Therapyddion celf, Gwyddonwyr biofeddygol, Ciropodyddion/podiatryddion, Gwyddonwyr clinigol, Dietegwyr, Dosbarthwyr cymhorthion clyw, Therapyddion galwedigaethol, Ymarferwyr adrannau llawfeddygol, Orthoptyddion, Parafeddygon, Ffisiotherapyddion, Ymarferwyr seicoleg, Prosthetyddion/orthotyddion, Radiograffyddion a Therapyddion iaith a lleferydd.

Ceir rhagor o wybodaeth yn: https://www.hcpc-uk.org/cy-gb/amdanom-ni/pwy-ydyn-nin-ei-reoleiddio/y-proffesiynau/ 
Cyhoeddwyd:
30/11/2023
Resources
Learning material
Is-gategori:
Information and support
Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 30/11/2023
Top