Skip navigation
What's your experience of dealing with us? Let us know what works well and what we could do better in our short survey. Share your experience

Unigolyn cofrestredig sy’n ennill cymwysterau ychwanegol er mwyn ehangu cwmpas eu hymarfer fel unigolyn y tu hwnt i’r cwmpas a dderbynnir yn gyffredinol ar gyfer eu proffesiwn.

Mae Priya yn therapydd cerdd sy’n gweithio mewn practis annibynnol yng Nghymru ac yn cyfuno hynny â rôl ym myd addysg fel academydd a thiwtor clinigol.

Agwedd

Dros amser, mae ei rôl addysg yn ehangu ac mae hi’n gweithio pedwar diwrnod yr wythnos mewn addysg, ac un mewn ymarfer clinigol. Golyga hynny, y mwyafrif o’r amser y mae Priya’n gweithio, mai myfyrwyr ac aelodau staff yn y brifysgol ydy defnyddwyr ei gwasanaeth. Er mwyn sicrhau bod ei gwybodaeth a’i sgiliau yn adlewyrchu’r newid hwn, mae hi’n ymgymryd â gradd feistr mewn arweinyddiaeth mewn rheoli addysg, gan ehangu cwmpas ei hymarfer fel unigolyn y tu hwnt i’r ffiniau a gydnabyddir yn gyffrendiol ar gyfer therapydd cerdd. Wedi iddi gwblhau ei gradd feistr, mae hi’n cael ei phenodi yn Bennaeth Adran.

Yn ei rôl fel Pennaeth Adran, mae Priya’n adnabod angen am gefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr gofal iechyd niwroamrywiol. Mae hi’n ymgymryd â Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg, gan ganolbwyntio ar gefnogaeth academaidd a chlinigol i fyfyrwyr gofal iechyd niwroamrywiol, ac mae hi’n symud i ffwrdd o’i gwaith clinigol. Mae cwmpas ei hymarfer yn esblygu i ganolbwyntio ar weithgareddau addysg ac ymchwil yn y maes hwn. Mae hi’n datblygu menter sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n darparu cefnogaeth ac arweiniad i unigolion cofrestredig niwroamrywiol ac yn hyfforddi mentoriaid i’w cefnogi gyda’u trosglwyddiadau a’u datblygiadau yn eu gyrfaoedd.

Nid yw Priya bellach yn defnyddio ystod o dechnegau cerddoriaeth a chreu cerddoriaeth i gefnogi defnyddwyr ei gwasanaeth (safon hyfedredd 13.17). Fodd bynnag, mae hi’n gwybod bod angen iddi barhau i fodloni safonau hyfedredd yr HCPC sy’n berthnasol i gwmpas ei hymarfer fel unigolyn, yn ogystal â’i holl safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg. 

Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 21/05/2026