Yn ystod eich gyrfa, gall fod disgwyl i chi ddirprwyo gweithgareddau neu rannau o weithgareddau, i gydweithwyr cofrestredig, gweithwyr ategol a phobl eraill o fewn neu oddi allan i’ch sefydliad.
Er mwyn bodloni eich safonau, mae’n bwysig eich bod yn dirprwyo’n ddiogel ac yn effeithiol, boed hynny oddi mewn neu’r tu hwnt i sefydliad. Mae dirprwyo yn weithgaredd perthynol a ddefnyddir er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau, darparu cefnogaeth i’r bobl rydych chi’n dirprwyo iddynt a gwneud y defnydd gorau o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau o fewn timau a rhwng timau gwahanol.
Mae’r tudalennau hyn yn amlinellu cyfrifoldebau a manteision allweddol dirprwyo diogel ac effeithiol ac yn cynnig cwestiynau ymarferol i’w hystyried wrth i chi fodloni eich safonau HCPC.
Beth yw dirprwyo?
Dirprwyo ydy pan fydd gweithgaredd, neu ran o weithgaredd, yn cael ei drosglwyddo i unigolyn arall sy’n gallu cyflawni’r gweithgaredd hwnnw heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Mae safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg yr HCPC yn gosod y gofynion allweddol ar gyfer dirprwyo diogel ac effeithiol.
Rhaid i chi ond dirprwyo gwaith i rywun sydd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i’w gyflawni’n ddiogel ac yn effeithiol (4.1)
Rhaid i chi barhau i ddarparu goruchwyliaeth a chefnogaeth briodol i'r rhai yr ydych yn dirprwyo gwaith iddynt (4.2)
Beth nad yw dirprwyo
Mae dirprwyo’n wahanol i gyfeirio ymlaen. Pan fydd unigolyn cofrestredig yn cyfeirio ymlaen at gydweithiwr arall, maent yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn asesu bod anghenion defnyddiwr y gwasanaeth y tu hwnt i gwmpas eu hymarfer, gan olygu y bydd defnyddiwr y gwasanaeth yn cael gwell gwasanaeth drwy weithio â gweithiwr proffesiynol arall. Pan fydd yr atgyfeiriad wedi’i dderbyn, nid oes angen i’r unigolyn cofrestredig ddarparu cefnogaeth barhaus i’w cydweithiwr sydd bellach yn arwain y cyfnod gofal.
Mae dirprwyo’n wahanol i oruchwylio. Mae goruchwylio yn broses o ddysgu a datblygu proffesiynol drwy ddarparu cefnogaeth reolaidd. Proses ar gyfer diwallu anghenion gwasanaeth ydy dirprwyo, lle caiff gweithgaredd, neu ran o weithgaredd, ei ddirprwyo o’r unigolyn cofrestredig i unigolyn arall tra bydd yr unigolyn cofrestredig yn parhau’n atebol am y canlyniad yn y pen draw.
Dull gweithio ar gyfer dirprwyo
Rhaid i ddirprwyo fod er lles eich defnyddiwr gwasanaeth a bydd penderfyniadau i ddirprwyo yn adlewyrchu anghenion defnyddwyr gwasanaeth unigol a’ch crebwyll proffesiynol eich hun. Byddwch yn defnyddio’ch crebwyll proffesiynol hefyd i benderfynu ar lefel yr oruchwyliaeth neu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar yr unigolyn rydych chi’n dirprwyo iddynt, er mwyn iddynt allu cyflawni’r gweithgaredd yn ddiogel ac yn effeithiol.
Wrth benderfynu a ydych am ddirprwyo tasg, efallai y byddech am ystyried y canlynol (addaswyd o ddeunydd Cymdeithas Ddeieteg Prydain 2025):
- Ydy dirprwyo er lles defnyddiwr y gwasanaeth?
- Ydy’r gweithgaredd, neu’r rhan sy’n cael ei dirprwyo, oddi mewn i rôl swydd yr aelod staff?
- A oes hyfforddiant ac addysg perthnasol a phriodol wedi’u darparu?
- A oes angen i alluogrwydd ar gyfer y gweithgaredd gael ei ddangos, ei asesu a’i gymeradwyo?
- A oes protocolau a pholisïau priodol a pherthnasol ar waith ar gyfer y gweithgaredd sy’n cael ei ddirprwyo?
- Ydy’r tîm ehangach yn gwybod am y cynlluniau i ddirprwyo, e.e. rheolwr llinell yr unigolyn y mae gwaith yn cael ei ddirprwyo iddynt?
- Beth ydy’r trefniadau ar gyfer cefnogaeth a goruchwyliaeth reolaidd?
- Ydy hyn yn dal er lles defnyddiwr y gwasanaeth?
Cyfrifoldebau ac atebolrwydd
Yn ogystal â dirprwyo i bobl eraill, gallai unigolion cofrestredig dderbyn gweithgaredd, neu ran o weithgaredd, a ddirprwyir gan weithiwr proffesiynol arall. Wrth dderbyn gweithgaredd a ddirprwyir, mae angen i unigolion cofrestredig ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol i benderfynu a yw o fewn cwmpas eu hymarfer (fel yr amlinellir yn safon 3: gweithio o fewn terfynau eich gwybodaeth a’ch sgiliau) ac mae angen iddynt ystyried y canlynol:
- A ydw i’n meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad i gyflawni’r gweithgaredd yn ddiogel ac yn effeithiol?
- Sut gallaf fi ddangos bod y gweithgareddau sydd o fewn cwmpas fy ymarfer yn diwallu anghenion defnyddiwr y gwasanaeth (er enghraifft drwy safonau, canllawiau, polisïau, ymchwil, data awdit)?
- Os nad yw’r gweithgaredd oddi mewn i gwmpas presennol fy ymarfer, a allaf fi gwblhau hyfforddiant neu dderbyn cefnogaeth arall (megis goruchwyliaeth) a fydd yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad i mi sydd eu hangen er mwyn cyflawni’r gweithgaredd yn ddiogel ac yn effeithiol?
- A yw’r gweithgaredd yn un a gyfyngir gan y gyfraith (megis rhoi presgripsiynau) ac, os felly, a ydw i’n gallu ei wneud yn gyfreithlon?
- A yw fy nhrefniant indemniad proffesiynol (gan gynnwys polisïau ac yswiriant y sefydliad) yn cwmpasu’r gweithgaredd?
Mae’r dull gweithio ar gyfer dirprwyo felly yn gyfrifoldeb ar y cyd rhwng yr unigolyn sy’n dirprwyo, yr unigolyn y dirprwyir iddynt a’r sefydliad(au) lle maent yn gweithio.
Manteision dirprwyo
Mae dirprwyo yn galluogi i anghenion defnyddwyr y gwasanaeth gael eu diwallu drwy wneud y gorau o’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau ar draws timau (gelwir hyn weithiau yn optimeiddio cwmpas). Mae’r gweithlu hefyd yn derbyn cyfleoedd i ddatblygu galluogrwydd a sgiliau, wrth i aelodau staff ennill lefel uwch o sgiliau wrth gyflawni eu dyletswyddau. Mae hynny’n helpu i sicrhau y caiff sgiliau uwch eu meithrin a’u trosglwyddo. Felly, drwy ddirprwyo yn bragmataidd ac yn diogel, mae modd lleddfu pwysau ar draws timau.