Dr Stephanie Tempest PhD, therapydd galwedigaethol ac unigolyn cofrestredig gyda’r HCPC.
Stephanie Tempest ydw i, therapydd galwedigaethol ers 1997 ac unigolyn cofrestredig gyda’r HCPC ers ei sefydlu yn 2002 i gymryd lle’r Cyngor ar gyfer Proffesiynau Ategol i Feddygaeth Ers dechrau'r haf y llynedd, rwyf wedi cael y fraint o weithio fel Cymrawd Clinigol yn yr HCPC ar sail rhan-amser. Mae wedi bod yn brofiad dysgu gwych i mi ac hefyd yn gyfle i ddod â’m gwybodaeth a’m profiadau o weithio ar draws sectorau i’r tîm, gan gynnwys gwaith mewn ymarfer clinigol, addysg, ymchwil ac arweinyddiaeth strategol genedlaethol.
Canolbwynt fy rôl ydy llywio a darparu darn pwysig o waith i gefnogi unigolion cofrestredig a rheolwyr yn eu dealltwriaeth o ffyrdd o fodloni safonau rheoleiddiol ar lefelau ymarfer uwch. O’r cychwyn, roeddwn i’n teimlo cyffro mawr o gael y cyfle hwn. Wedi treulio’r ddegawd ddiwethaf yn arbenigo mewn dysgu a datblygu ar gyfer y gweithlu, roedd y prosiect hwn yn cynnig yr union fath o her a thwf yn fy ngyrfa yr oeddwn i’n chwilio amdanynt.
Nodau ein prosiect
Roedd gan y prosiect dri nod creiddiol:
- Deall canfyddiadau rhanddeiliaid amrywiol ynglŷn â chwmpas ymarfer, dirprwyo a goruchwylio ar lefelau ymarfer uwch.
- Darparu cefnogaeth reoleiddiol i unigolion cofrestredig, rheolwyr ac arweinwyr strategol ynglŷn â’r meysydd canlynol ar lefelau ymarfer uwch:
- cwmpas ymarfer
- optimeiddio cwmpas
- dirprwyo
- goruchwylio - Datblygu adnoddau amlgyfrwng i helpu unigolion cofrestredig a rheolwyr i gymhwyso safonau rheoleiddiol ar lefelau ymarfer uwch.
Cafodd y prosiect ei gomisiynu gan NHS England, gyda golwg ar y Deyrnas Unedig gyfan a phwyslais penodol ar gymhwyso safonau rheoleiddiol ar lefelau ymarfer uwch. Mae’r safonau sy’n ymwneud â chwmpas ymarfer, goruchwylio a dirprwyo wedi bod wrth graidd y gwaith hwn. Mae’r meysydd hyn yn hanfodol er mwyn galluogi ymarferwyr i weithio’n ddiogel, yn effeithiol ac mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu eu harbenigedd.
Prosiect wedi’i lywio gan gydweithio a rhannu gwybodaeth
Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, roedd angen ymgysylltu'n eang, gwrando’n rhagweithiol ac ymrwymiad i gydweithio ar draws y Deyrnas Unedig, proffesiynau a sectorau.
Gan weithio o fewn y tîm Polisi a Safonau, rwyf wedi bod yn rhan o grŵp prosiect ehangach, gan gydweithio nid yn unig â thimau gwahanol yn fewnol, ond â phartneriaid allanol hefyd. Mae'r cydweithio traws-reoleiddiol hwn wedi cynnwys gweithio’n agos gyda'r Cyngor Osteopatheg Cyffredinol (GOsC), gan greu amgylchedd dysgu ffrwythlon a sicrhau bod y gwaith yn elwa o safbwyntiau proffesiynol amrywiol.
Cynnal ymarfer diogel ac effeithiol
Un o’r agweddau a roddodd fwyaf o foddhad yn y rôl oedd y cyfle i ganolbwyntio’n fanwl ar y ffyrdd y mae safonau rheoleiddiol eisoes yn cefnogi pobl sy’n gweithio ar lefelau ymarfer uwch neu’n gweithio tuag atynt, a’r rheolwyr sy’n eu cefnogi hwythau. Mae’r rhan hon o’r gweithlu yn dod â chyfoeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau ac rwyf wedi gwerthfawrogi cael canolbwyntio ein gwaith ar ffyrdd o sicrhau bod y fframwaith rheoleiddiol presennol yn rhoi cefnogaeth briodol iddynt er mwyn cyfrannu at ofal o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Wrth reswm, un rhan yn unig o’r dirwedd broffesiynol ehangach ydy rheoleiddio. Mae ymarfer diogel ac effeithiol yn dibynnu ar gydweithio ar draws y system, gydag unigolion cofrestredig, rheolwyr, cyrff proffesiynol, undebau a rheoleiddwyr oll yn cyflawni rolau hanfodol. Wrth i ni ystyried y cwestiynau cyfoes ynglŷn â lefelau ymarfer uwch, roedd yn hollbwysig ein bod yn gweithio ar y cyd ac yn cydnabod y gwaith sylweddol sydd eisoes ar y gweill ar draws y sector.
Gwrando, dysgu ac ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl
Er mwyn creu darlun ystyrlon, fe gasglon ni fewnwelediadau a data gan filoedd o randdeiliaid allweddol. Gwnaethon ni gynllunio amryw o ffyrdd gwahanol i bobl allu cysylltu â ni, gan sicrhau bod y broses yn hygyrch, yn amrywiol ac yn gynrychioladol.
Gwnes i fy hun arwain 37 o sgyrsiau gwrando gyda rhychwant eang o grwpiau, gan gynnwys cyrff proffesiynol, undebau, arweinwyr cenedlaethol a rhanbarthol o bob un o bedair cenedl y Deyrnas Unedig, academyddion sy’n darparu addysg ôl-raddedig ac ymchwil, ac unigolion cofrestredig sy’n gweithio mewn sectorau amrywiol. Rhoddodd y sgyrsiau hyn olwg werthfawr, feintiol i ni ar yr heriau a’r cyfleoedd ar lefelau ymarfer uwch.
Wrth i ymwybyddiaeth o’r prosiect gynyddu, cawsom wahoddiadau, a dderbyniwyd yn ddiolchgar, i gyflwyno mewn 10 o gyfarfodydd amlbroffesiwn, cynadleddau a gweminarau a gynhaliwyd gan gydweithwyr ar draws y system. Roedd y diddordeb allanol hwn o gymorth i gadarnhau perthnasedd a phwysigrwydd y gwaith.
Cyfres lwyddiannus o weminarau
Dangosodd ein cyfres ein hunan o weminarau, a ddarparwyd rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2025, faint o ymgysylltu mae’r gweithlu’n ei wneud â’r pynciau hyn. Cofrestrodd dros 5,000 o bobl ac fe fynychodd bron i 2,500, sy’n raddfa drosi ardderchog.
O blith y rhai a fynychodd:
- roedd 1,535 yn unigolion cofrestredig oedd yn gweithio tuag at neu’n ymarfer eisoes ar lefelau uwch; ac
- roedd 884 yn rheolwyr, gan gynnwys cydweithwyr amlbroffesiwn fel nyrsys a meddygon.
Roedd hwyluso gweminarau ar y raddfa hon yn gyffrous ac, mae’n rhaid cyfaddef, ychydig yn arswydus. Er bod gen i brofiad helaeth mewn addysgu a chyflwyno, dyma’r cynulleidfaoedd ar-lein mwyaf i mi ryngweithio â nhw erioed. Roedd yr adborth yn eithriadol o gadarnhaol, a dyma un o’r uchafbwyntiau sy’n sefyll allan i mi o hyd o’r prosiect.
Yn ystod sesiynau’r gweminarau, buon ni’n annog cyfranogiad weithredol drwy gwestiynau byw, polau a dulliau o roi ymateb. Rydyn ni’n ddiolchgar hefyd i’r 171 o bobl a gwblhaodd y gwerthusiad ar ôl gweminar, gan gynnig adborth manwl a fu’n gymorth wrth ffurfio cam nesaf y gwaith.
Datblygu adnoddau amlgyfrwng sy’n ymateb i anghenion yn y byd go iawn
Cafodd yr holl ddata a mewnwelediadau a gasglwyd fel rhan o’n gweithgareddau ymgysylltu eu dadansoddi gan dîm y prosiect ac fe amlygon nhw nifer o feysydd lle byddai rhagor o eglurder a chefnogaeth yn werthfawr i unigolion cofrestredig sy’n gweithio ar lefelau ymarfer uwch a’u rheolwyr.
Cyfrannodd y themâu allweddol hyn yn uniongyrchol at ddatblygiad set amrywiol o adnoddau o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion a dewisiadau dysgu gwahanol. Ymhlith yr adnoddau hyn, y ceir dolenni atynt ar ddiwedd y blog hwn, mae:
- adnoddau pwrpasol newydd y gellir eu lawrlwytho, megis Diweddariad ar y Cyd ynglŷn â rheoleiddio lefelau ymarfer uwch a thempled myfyrio i helpu i ddiffinio ac egluro cwmpas ymarfer (y ddau mewn cydweithrediad â’r GOsC);
- cynnwys gwe newydd a luniwyd yn benodol er mwyn cefnogi dealltwriaeth o lefelau ymarfer uwch;
- gwell cynnwys gwe er mwyn gwella eglurder a sicrhau perthnasedd i ymarfer proffesiynol cyfredol;
- mynediad at recordiadau o weminarau, gan gynnwys darn fideo byr wedi’i recordio o’r newydd, a phecyn o sleidiau i gefnogi gweithgareddau DPP; ac
- arwyddbyst at ganllawiau ac adnoddau pellach, gan gynnwys enghreifftiau gan gyrff proffesiynol a sefydliadau eraill.
Rwy’n falch o’r rhychwant ac ansawdd y deunyddiau rydyn ni wedi’u datblygu. Gwnaethon ni ymdrech fwriadol i sicrhau eu bod yn hygyrch, yn ymarferol ac ar gael mewn fformatau amrywiol, felly mae rhywbeth i bawb.
Rwy’n falch hefyd o’r ffordd y cafodd yr adnoddau hyn eu datblygu. Buon nhw trwy brosesau adolygu cadarn oedd wedi’u cynllunio â’r bwriad o sicrhau ansawdd a chywirdeb, ac fe wnaethon nhw elwa o arbenigedd nifer o gydweithwyr ar draws y system. Roedd gan gyrff proffesiynol, academyddion, arweinwyr strategol, unigolion cofrestredig, rheolwyr a phartneriaid yn y dirwedd gofal iechyd a rheoleiddio ehangach oll rôl yn llunio’r cynnwys hwn.
Fy ngobeithion ar gyfer yr adnoddau
Rwy’n eich annog i bori drwy’r gyfres lawn o allbynnau ac ystyried sut gallan nhw gefnogi eich ymarfer chi, eich arweinyddiaeth neu’ch gwaith strategol. Ar wefan yr HCPC nawr, fe welwch chi gyfres gynhwysfawr o adnoddau a phecynnau amlgyfrwng sydd wedi’u cynllunio â’r bwriad o gryfhau dealltwriaeth o safonau rheoleiddiol ar lefelau ymarfer uwch a’r ffordd y cânt eu cymhwyso.
Mae’r deunyddiau hyn wedi’u dylanwadu’n uniongyrchol gan leisiau unigolion cofrestredig, rheolwyr, cyrff proffesiynol ac arweinwyr ar draws y system. P’un ai ydych chi’n datblygu eich rôl eich hun, yn cefnogi pobl eraill neu’n cynllunio gwasanaethau, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n canfod cynnwys sy’n rhoi gwybodaeth, yn eich cefnogi ac yn ysbrydoli eich camau nesaf.
Edrych ymlaen
Mae’r gymrodoriaeth hon wedi cynnig DPP arwyddocaol i mi, ac wedi rhoi mewnwelediadau gwerthfawr a’r cyfle i gyfrannu at waith sy’n cefnogi ymarferwyr ar lefelau ymarfer uwch a rheolwyr amlbroffesiwn. Mae wedi atgyfnerthu fy marn bod symud y gweithlu yn ei flaen yn rhywbeth sy’n galw am gydweithio at yr un diben, ac ymrwymiad cyson i ddatblygu proffesiynol a rhagoriaeth.
Rwy’n falch o fod wedi chwarae rhan yn y prosiect hwn ac yn ddiolchgar am y cyfle i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr sy’n rhoi’r pwys mwyaf ar wella ein cyd-ddealltwriaeth o’r modd y gellir cymhwyso’r safonau presennol i alluogi modelau ymarfer esblygol. Wrth i lefelau ymarfer uwch barhau i aeddfedu ar draws maes iechyd a gofal, rwy’n gobeithio y bydd canlyniadau cydweithredol y prosiect hwn yn helpu i gryfhau’r sylfeini ar gyfer ymarfer diogel, effeithiol a chydweithredol.
Myfyrdodau personol
Wrth i mi ysgrifennu’r blog hwn, mae fy gwaith ar y prosiect hwn yn dod i ben. Mae toreth o bethau i mi fyfyrio yn eu cylch, rhai mewnwelediadau sydd eisoes yn teimlo’n eglur, a rhai eraill fydd yn cymryd amser a gofod i’w prosesu’n llawn. Mae’r gwaith hwn wedi peri i mi werthfawrogi’n fwy fyth pa mor hanfodol ydy hi i bob rhan o’r system weithio gyda’n gilydd i sicrhau ymarfer diogel ac effeithiol, yn enwedig mewn meysydd lle mae dealltwriaeth yn parhau i ddatblygu a rolau’n parhau i ehangu.
Rwy’n gobeithio y bydd yr adnoddau rydyn ni wedi’u datblygu yn cyfrannu at sgyrsiau manwl ac eang fydd wedi’u seilio ar wybodaeth. Yn bwysicaf oll, rwy’n gobeithio y byddan nhw’n helpu i gadw ein ffocws ni i gyd ar yr hyn sydd bwysicaf - darparu gwasanaethau o’r safon uchaf i’r bobl a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws pob lleoliad a sector.