Skip navigation

Cwestiynau cyffredin ac adnoddau pellach ar gyfer dirprwyo

Mae canllawiau ar gael i’ch helpu chi i benderfynu a yw dirprwyo yn briodol a sut i ddirprwyo’n effeithiol

Mae dirprwyo yn weithgaredd perthynol a dylai fod er lles defnyddwyr y gwasanaeth. Defnyddiwch eich crebwyll proffesiynol a gweithiwch gyda chydweithwyr, rheolwyr, a chyflogwyr i wneud penderfyniadau ynglŷn â dirprwyo.

Gellir dod o hyd i adnoddau ychwanegol ynglŷn â dirprwyo ar waelod y dudalen hon.

Cwestiynau Cyffredin Dirprwyo

Expand all

  • Cewch, ar yr amod bod yr unigolyn yn meddu ar y sgiliau a hyfforddiant angenrheidiol i gyflawni’r gweithgareddau a’ch bod chi’n gallu rhoi cefnogaeth a goruchwyliaeth briodol iddynt. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y safonau ymddygiad, perfformiad, a moeseg:

    1. 4.1 Rhaid i chi ond dirprwyo gwaith i rywun sydd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i’w gyflawni’n ddiogel ac yn effeithiol.
    2. 4.2 Rhaid i chi sicrhau hefyd eich bod yn parhau i ddarparu goruchwyliaeth a chefnogaeth briodol i'r rhai yr ydych yn dirprwyo gwaith iddynt.
  • Fel unigolyn cofrestredig, mae angen i chi ddefnyddio eich crebwyll proffesiynol wrth ddirprwyo gweithgareddau, gan sicrhau bod yr unigolyn y dirprwyir iddynt yn alluog i gyflawni’r gweithgaredd a bod cefnogaeth barhaus yn cael ei darparu. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y safonau ymddygiad, perfformiad, a moeseg:

    • 4.1 Rhaid i chi ond dirprwyo gwaith i rywun sydd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i’w gyflawni’n ddiogel ac yn effeithiol.
    • 4.2 Rhaid i chi sicrhau hefyd eich bod yn parhau i ddarparu goruchwyliaeth a chefnogaeth briodol i'r rhai yr ydych yn dirprwyo gwaith iddynt.

    Efallai y byddech am ystyried y cyfan neu rai o'r cwestiynau canlynol:

    • Ydy’r gweithgaredd, neu’r rhan sy’n cael ei dirprwyo, oddi mewn i rôl swydd yr aelod staff?
    • A oes hyfforddiant ac addysg perthnasol a phriodol wedi’u darparu?
    • A oes angen i alluogrwydd ar gyfer y gweithgaredd gael ei ddangos, ei asesu a’i gymeradwyo?
    • A oes protocolau a pholisïau priodol a pherthnasol ar waith ar gyfer y gweithgaredd sy’n cael ei ddirprwyo?
    • Ydy’r tîm ehangach yn gwybod am y cynlluniau i ddirprwyo, er enghraifft, rheolwr llinell yr unigolyn y mae gwaith yn cael ei ddirprwyo iddynt? 
  • Fel unigolyn cofrestredig, rhaid i chi sicrhau mai dim ond gweithgareddau y mae’r sgiliau a’r hyfforddiant angenrheidiol gennych i allu eu gwneud yn ddiogel y byddwch yn eu cyflawni.

    Mae gennych ddyletswydd gofal tuag at ddefnyddwyr y gwasanaeth, aelodau staff eraill a’ch hunan i sicrhau y byddwch yn codi llais os byddwch yn teimlo nad ydych yn gallu ymgymryd â gweithgaredd yn ddiogel ac yn fedrus, fel y dywed safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg yr HCPC.

    • 3.1 Rhaid i chi ymarfer dim ond yn y meysydd lle mae gennych y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad priodol i ddiwallu anghenion defnyddiwr gwasanaeth yn ddiogel ac yn effeithiol.
    • 3.2 Rhaid i chi ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol i ddiweddaru eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad os ydych yn dymuno ehangu cwmpas eich ymarfer.
    • 3.3 Rhaid i chi atgyfeirio defnyddiwr gwasanaeth at ymarferwr priodol os yw’r gofal, y driniaeth neu’r gwasanaethau eraill sydd eu hangen arnynt y tu hwnt i gwmpas eich ymarfer. Rhaid i'r person hwn feddu ar y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad priodol i ddiwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth yn ddiogel ac yn effeithiol.
    • 7.1 Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw bryderon am ddiogelwch neu les defnyddwyr gwasanaeth yn brydlon ac yn briodol.
    • 7.2 Rhaid i chi gefnogi ac annog eraill i roi gwybod am bryderon a pheidio ag atal unrhyw un rhag codi pryderon.
    • 7.4 Rhaid i chi sicrhau bod diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaeth bob amser yn dod cyn unrhyw deyrngarwch proffesiynol neu deyrngarwch arall. 
  • Mae’n ofyniad gan yr HCPC eich bod yn cadw cofnodion cywir a llawn (gweler safon 10).  Er nad yw ein canllawiau ar gadw cofnodion yn rhagnodol, mae’n bwysig bod yr holl gofnodion yn darparu darlun cyfan clir o’r penderfyniadau a'r ymyriadau a wnaed er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau, gan gynnwys prosesau sy’n gysylltiedig â dirprwyo. Os nad ydych chi’n sicr, efallai yr hoffech chi wirio’r gefnogaeth sydd ar gael drwy eich corff proffesiynol.

  • Fel unigolyn cofrestredig, mae angen i chi ddefnyddio eich crebwyll proffesiynol wrth ddirprwyo gweithgareddau, gan sicrhau bod yr unigolyn y dirprwyir iddynt yn alluog i gyflawni’r gweithgaredd a bod goruchwyliaeth a chefnogaeth barhaus yn cael ei darparu.

    Mae’r HCPC yn gallu darparu cyngor i unigolion cofrestredig ynglŷn â bodloni ein safonau, ond mae cyngor ynglŷn ag atebolrwydd cyfreithiol a chlinigol y tu hwnt i’n cylch gorchwyl. Mae hefyd yn bwysig nodi bod safonau’r HCPC yn canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na bod yn rhagnodol. Byddem yn disgwyl i unigolyn cofrestredig ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol i wneud penderfyniadau ymreolus sydd er lles defnyddwyr eu gwasanaethau.

    Er bod rhaid i bob unigolyn cofrestredig fodloni ein safonau, mae’r unigolion cofrestredig hefyd yn rhan o system fwy sydd wedi’i chynllunio â’r bwriad o amddiffyn y cyhoedd. Byddem yn disgwyl i unigolion cofrestredig sicrhau eu bod yn dilyn arferion gorau, canllawiau cyflogwyr a’r gyfraith bob amser.

    Pan fydd unigolyn cofrestredig yn dirprwyo tasg, mae angen iddynt wneud hynny gyda safon 4 y safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg yn eu meddwl.

    • 4.1 Rhaid i chi ond dirprwyo gwaith i rywun sydd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i’w gyflawni’n ddiogel ac yn effeithiol.
    • 4.2 Rhaid i chi barhau i ddarparu goruchwyliaeth a chefnogaeth briodol i'r rhai yr ydych yn dirprwyo gwaith iddynt. 
  • Os byddaf yn cael gweithgaredd newydd wedi’i ddirprwyo i mi a fy mod wedi cael hyfforddiant, addysg a / neu gymwysterau ychwanegol i allu ei gyflawni’n ddiogel, ydy hynny’n gallu cyfrif fel rhan o fy ngweithgareddau datblygu proffesiynol parhaus (DPP), hyd yn oed os yw’r gweithgareddau hynny’n estyn y tu hwnt i’r cwmpas ymarfer a dderbynnir yn gyffredinol ar gyfer fy mhroffesiwn?

    I roi ateb byr, ydy, cyn belled â’ch bod chi’n myfyrio am effaith y gweithgaredd ar ddiwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth.

    Nid yw gofynion DPP yr HCPC yn rhagnodol, felly mae ystod eang o weithgareddau y gallwch eu gwneud sy’n bodloni’r gofynion a bennwyd gennym.

    Wrth i chi symud ymlaen yn eich gyrfa, mae’n bosib iawn y byddwch yn ehangu cwmpas eich ymarfer unigol y tu hwnt i’r cwmpas a dderbynnir yn gyffredinol ar gyfer eich proffesiwn er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth. Gellir cynnwys gweithgareddau newydd yn rhan o’ch gofynion DPP cyn belled â bod y sgiliau a enillir yn berthnasol i’r defnyddwyr gwasanaeth rydych chi’n gweithio gyda nhw.

Cynnwys cysylltiedig

Adnoddau eraill

Mae canllawiau penodol i’r sector ar gael i gefnogi dirprwyo effeithiol mewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys ‘Delegated healthcare activities’ gan Skills for Care.

Mae gan rai cyrff proffesiynol dudalennau gwe penodol i ddarparu cyngor a chanllawiau ynglŷn â dirprwyo, er enghraifft:

Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 22/05/2026