Dyma'r safonau rydym wedi'i gynhyrchu ar gyfer ymarfer y proffesiynau rydym yn eu rheoleiddio yn ddiogel ac yn effeithiol
Maent yn safonau gofynnol sydd yn angenrheidiol yn ein barn ni i ddiogelu aelodau o'r cyhoedd. Rhaid i'n cofrestreion fodloni'r safonau hyn pan fyddant yn cofrestru am y tro cyntaf. Ar ôl hynny, bob tro y byddant yn adnewyddu eu cofrestriad gofynnir iddynt lofnodi datganiad eu bod yn parhau i gwrdd â'r safonau medrusrwydd sy'n berthnasol i'w cwmpas ymarfer.
Mae safonau medrusrwydd yn cynnwys elfennau cyffredinol, sy'n gymwys i bob un o'n cofrestreion, a rhai elfennau proffesiwn-benodol sy'n berthnasol i'r cofrestreion yn perthyn i un o'r proffesiynau rydym yn eu rheoleiddio.
Mae’r safonau medrusrwydd i'w gweld yn yr adran gyhoeddiadau. Byddwn yn darparu cyfieithiad Cymraeg o'r rhai nad ydynt wedi cael eu cyfieithu eisoes ar gais.
Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 06/09/2018