Skip navigation

Radiograffwyr

Daeth y safonau hyn yn weithredol ar 1 Medi 2023 gan ddisodli fersiynau blaenorol.

Mae’r safonau hyn yn amlinellu ymarfer diogel ac effeithiol yn y proffesiynau rydym yn eu rheoleiddio. Dyma’r safonau trothwy yr ydym yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd.

Mae'n rhaid i weithwyr proffesiynol fodloni’r holl safonau hyfedredd er mwyn cofrestru â ni a bodloni’r safonau sy’n berthnasol i gwmpas eu hymarfer er mwyn parhau’n gofrestredig â ni.

Nodyn am yr hyn a ddisgwyliwn gennych

Rhaid i chi fodloni’r holl safonau hyfedredd er mwyn cofrestru â ni a bodloni’r safonau sy’n berthnasol i gwmpas eich hymarfer er mwyn parhau’n gofrestredig â ni.

Os oes amheuaeth yn cael ei fwrw ar eich ymarfer, byddwn yn ystyried y safonau hyn (a’r safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg) wrth benderfynu pa gamau gweithredu, os o gwbl, y bydd angen i ni eu cymryd.

Mae’r safonau hyfedredd yn ategu gwybodaeth a chanllawiau a gyhoeddir gan sefydliadau eraill, megis eich corff proffesiynol neu eich cyflogwr. Rydym yn cydnabod rôl werthfawr cyrff proffesiynol o ran darparu canllawiau a chyngor ynglŷn ag ymarfer da sy'n gallu eich helpu chi i fodloni’r safonau a geir yn y ddogfen hon.

Rydym hefyd yn disgwyl i’r rhai sy’n cofrestru fodloni safonau’r HCPC o ran ymddygiad, perfformiad a moeseg a safonau o ran datblygiad proffesiynol parhaus.

Cwmpas eich ymarfer

Cwmpas eich ymarfer yw’r maes neu’r meysydd yn eich proffesiwn y mae’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad gennych ynddynt i ymarfer yn gyfreithlon, yn ddiogel ac yn effeithiol, mewn ffordd sy’n bodloni’r safonau ac nad yw’n creu unrhyw berygl i’r cyhoedd nac i chi’ch hunan.

Rydym yn sylweddoli y bydd cwmpas ymarfer rhywun sydd wedi cofrestru yn newid dros dreigl amser ac y bydd ymarfer unigolion profiadol sydd wedi cofrestru yn aml yn datblygu mwy o ffocws ac yn dod yn fwy arbenigol nag ymarfer cydweithwyr sydd newydd gofrestru.

Gallai hynny fod oherwydd arbenigedd mewn maes penodol neu gyda grŵp arbennig o gleientiaid, neu symud i rolau rheoli, addysgu neu ymchwil. Bob tro y byddwch yn adnewyddu eich cofrestriad, gofynnir i chi lofnodi datganiad i gadarnhau eich bod yn parhau i fodloni’r safonau hyfedredd sy’n berthnasol i gwmpas eich ymarfer.

Gallai cwmpas penodol eich ymarfer olygu nad ydych yn gallu parhau i ddangos eich bod yn bodloni’r holl safonau perthnasol ar gyfer eich proffesiwn cyfan.

Cyn belled â’ch bod yn sicrhau eich bod yn ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol o fewn cwmpas penodol eich ymarfer ac nad ydych yn ymarfer yn y meysydd ble nad yw’r hyfedredd gennych i wneud hynny, ni fydd hyn yn broblem. Os byddwch chi'n dymuno camu allan o gwmpas eich ymarfer, dylech chi fod yn sicr bod y gallu gennych i weithio’n gyfreithlon, yn ddiogel ac yn effeithiol.

Golyga hyn fod angen i chi arfer barn bersonol drwy ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant angenrheidiol neu ennill profiad, cyn symud i faes newydd yn eich ymarfer.

Bodloni’r safonau

Mae hi’n bwysig eich bod yn bodloni’r safonau hyn ac yn gallu ymarfer yn gyfreithlon, yn ddiogel ac yn effeithiol. Fodd bynnag, nid ydym yn rhoi unrhyw orchmynion ynglŷn â sut y dylech fodloni’r safonau. Fel arfer, mae mwy nag un ffordd o fodloni pob un o’r safonau a gallai eich dull chi o fodloni’r safonau newid dros dreigl amser oherwydd gwelliannau o ran technoleg neu newidiadau yn eich ymarfer.

Byddwn yn aml yn cael cwestiynau gan rai sydd wedi cofrestru sy’n bryderus y gallai rhywbeth y gofynnwyd iddynt ei wneud, polisi, neu’r ffordd y maent yn gweithio olygu nad ydynt yn gallu bodloni’r safonau. Byddant yn aml yn poeni y galli hynny effeithio ar eu cofrestriad.

Fel gweithiwr proffesiynol ymreolus, mae angen i ci wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a rhesymeg ynglŷn â’ch ymarfer er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau sy’n berthnasol i chi.

Mae hynny’n cynnwys ceisio cyngor a chefnogaeth gan ddarparwyr addysg, cyflogwyr, cyrff proffesiynol, undebau ac eraill er mwyn sicrhau y caiff llesiant defnyddwyr y gwasanaeth ei ddiogelu bob amser. Cyn belled â’ch bod yn gwneud hynny ac yn gallu cyfiawnhau eich penderfyniadau os gofynnir i chi wneud, mae’n annhebygol iawn na fyddwch chi’n bodloni’r safonau.

Iaith

Rydym yn sylweddoli bod y rhai sydd wedi cofrestru gyda ni yn gweithio mewn ystod o leoliadau gwahanol, sy’n cynnwys ymarfer uniongyrchol, rheoli, addysg, ymchwil a rolau mewn diwydiant. Rydym hefyd yn sylweddoli y gall y defnydd o derminoleg fod yn fater sy’n cyhyrfu emosiynau.

Mae’r rhai sydd wedi cofrestru gyda ni yn gweithio gyda phobl wahanol iawn ac yn defnyddio termau gwahanol i ddisgrifio’r grwpiau sy’n defnyddio’u gwasanaethau neu’n cael eu heffeithio ganddynt. Mae rhai o’r bobl sydd wedi cofrestru gyda ni yn gweithio gyda chleifion, eraill gyda chleientiaid ac eraill gyda defnyddwyr gwasanaethau. Bydd y termau y byddwch chi’n eu defnyddio yn dibynnu ar sut a ble byddwch chi’n gweithio. Rydym wedi defnyddio termau yn y safonau hyn sydd, yn ein tyb ni, yn adlewyrchu orau y grwpiau rydych chi’n gweithio gyda hwy..

Yn y safonau hyfedredd, rydym yn defnyddio ymadroddion megis ‘deall’ a ‘gwybod’. Mae hynny er mwyn i’r safonau barhau’n berthnasol i rai sydd wedi cofrestru ar y pryd o safbwynt cynnal eu haddasrwydd i ymarfer, yn ogystal â darpar aelodau o’r gofrestr nad ydynt wedi dechrau ymarfer eto ac sy’n gwneud cais i gofrestru am y tro cyntaf.


Safonau hyfedredd

Mae’r safonau hyn yn weithredol o 1 Medi 2023.

Mae’r safonau’n cynnwys elfennau generig, sy’n berthnasol i bawb sy’n cofrestru gyda ni, ac elfennau proffesiwn-benodol, sy’n berthnasol i’r rhai sydd wedi cofrestru sy’n perthyn i un o’r proffesiynau rydym yn eu rheoleiddio.

Nid yw’r safonau’n hierarchaidd ac maent oll yr un mor bwysig o safbwynt ymarfer.

  • Mae’r safonau generig, sy’n berthnasol i bob proffesiwn, wedi’u hysgrifennu mewn print du, bras.
  • Mae’r safonau proffesiwn-benodol wedi’u hysgrifennu mewn print du, plaen.
  • Mae gan y safonau sy’n benodol i radiograffwyr diagnostig neu therapiwtig eu penawdau eu hunain ac maent wedi’u hysgrifennu mewn print glas.

Ar adeg eu cofrestru, rhaid bod radiograffwyr yn gallu:

Expand all


  • 1.1 gwybod lle mae terfynau eu hymarfer a phryd i geisio cyngor neu gyfeirio at weithiwr proffesiynol neu wasanaeth arall

    1.2 cydnabod yr angen i reoli eu llwyth gwaith a’u hadnoddau eu hunain yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gynnwys rheoli’r baich emosiynol sydd ynghlwm â gweithio mewn amgylchedd lle mae pwysau

    1.3 cadw eu sgiliau a'u gwybodaeth yn gyfredol a deall pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus trwy gydol eu gyrfa

     


  • 2.1 cynnal safonau uchel o ran ymddygiad personol a phroffesiynol

    2.2 hyrwyddo a diogelu buddiannau defnyddwyr y gwasanaeth bob amser

    2.3 deall pwysigrwydd diogelu drwy edrych yn rhagweithiol am arwyddion o gam-drin, gan ddangos dealltwriaeth o brosesau diogelu perthnasol ac ymwneud â’r prosesau hynny ble bo angen

    2.4 deall beth mae Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal yn ei wneud yn ofynnol iddynt ei wneud, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg

    2.5 deall a chynnal hawliau, urddas, gwerthoedd ac ymreolaeth defnyddwyr y gwasanaeth, gan gynnwys eu rôl yn y broses asesu, diagnosio, trin a/neu therapi

    2.6 cydnabod y dylai perthnasoedd â defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr ac eraill fod yn seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth gan y naill ochr a’r llall tuag at ei gilydd, gan gynnal safonau uchel o ofal ym mhob amgylchiad

    2.7 deall pwysigrwydd, a gallu sicrhau cydsyniad dilys, sy’n wirfoddol ac ar sail gwybodaeth, yn rhoi ystyriaeth briodol i alluedd, yn gymesur i’r amgylchiadau ac wedi’i gofnodi’n briodol

    2.8 deall pwysigrwydd galluedd yng nghyd-destun darparu gofal a thriniaeth

    2.9 deall cwmpas dyletswydd gofal proffesiynol, ac arfer y ddyletswydd honno

    2.10 deall deddfwriaeth, polisïau a chanllawiau sy’n berthnasol i’w proffesiwn a chwmpas eu hymarfer a’u rhoi ar waith

    2.11 cydnabod yr anghydbwysedd grym sy’n deillio o fod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol, a sicrhau nad ydynt yn camddefnyddio hynny er mantais bersonol

    2.12 ymarfer yn unol â deddfwriaeth gyfredol sy’n rheoli’r defnydd o ymbelydredd ïoneiddio ac ymbelydredd nad yw’n ïoneiddio at ddibenion meddygol a dibenion eraill

    2.13 deall y fframweithiau cyfreithiol, polisi, moeseg ac ymchwil sy’n sail i ymarfer radiograffeg ac sy’n llywio ac yn dylanwadu arno

     


  • 3.1 adnabod gorbryder a straen ynddynt hwy eu hunain a chydnabod yr effaith bosib ar eu hymarfer

    3.2 deall pwysigrwydd eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol eu hunain a strategaethau lles o safbwynt cynnal cymhwyster i ymarfer

    3.3 deall sut i gymryd camau gweithredu priodol pe gallai eu hiechyd effeithio ar eu gallu i ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gynnwys ceisio cymorth a chefnogaeth pan fo angen

    3.4 datblygu a mabwysiadu strategaethau eglur ar gyfer hunan-ofal corfforol a meddyliol a hunan-ymwybyddiaeth, er mwyn cynnal safon uchel o ran effeithiolrwydd proffesiynol ac amgylchedd gweithio diogel

     


  • 4.1 cydnabod eu bod yn gyfrifol yn bersonol am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd, ac yn gallu eu cyfiawnhau

    4.2 defnyddio eu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad, a’r wybodaeth sydd ar gael iddynt, i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a/neu gymryd camau gweithredu ble bo angen

    4.3 gwneud penderfyniadau rhesymegol i gychwyn, parhau, addasu neu roi’r gorau i driniaeth, neu ynglŷn â defnyddio technegau neu ddulliau gweithredu, a chofnodi’r penderfyniadau a’r rhesymeg yn briodol

    4.4 gwneud a derbyn atgyfeiriadau priodol, lle bo angen

    4.5 defnyddio’r gallu i wneud eu penderfyniadau e hunain

    4.6 dangos ymagwedd resymegol a systematig tuag at ddatrys problemau

    4.7 defnyddio sgiliau ymchwil, rhesymu a datrys problemau wrth benderfynu ar gamau gweithredu priodol

    4.8 deall yr angen i gymryd rhan weithredol mewn hyfforddiant, goruchwylio a mentora o safbwynt cynnal safonau ymarfer uchel, ac ymddygiad personol a phroffesiynol, a phwysigrwydd dangos hynny wrth ymarfer

     


  • 5.1 ymateb yn briodol i anghenion pob grŵp ac unigolyn wrth ymarfer, gan sylweddoli y gall hynny gael ei effeithio gan wahaniaeth o unrhyw fath gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, nodweddion gwarchodedig,* profiadau croestoriadol a gwahaniaethau diwylliannol

    5.2 deall deddfwriaeth cydraddoldeb a’i chymhwyso i’w hymarfer

    5.3 cydnabod effaith bosib eu gwerthoedd, eu credoau a’u rhagfarnau personol (a allai fod yn ddiarwybod) ar ymarfer a chymryd camau gweithredu personol er mwyn sicrhau bod holl ddefnyddwyr y gwasanaeth a’r holl ofalwyr yn cael eu trin yn briodol â pharch ac urddas

    5.4 deall y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol o ran ymarfer a gallu gwneud a chefnogi addasiadau rhesymol yn eu hymarfer eu hunain ac ymarfer pobl eraill

    5.5 cydnabod nodweddion a goblygiadau rhwystrau sy'n atal cynhwysiant, gan gynnwys y rhai ar gyfer grwpiau sydd wedi’u hynysu’’n gymdeithasol

    5.6 mynd ati’n weithredol i herio’r rhwystrau hyn, gan gefnogi cyflwyno newid lle bynnag y bo modd

    5.7 cydnabod bod angen i ystyriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gael ei ymgorffori yn y modd y cymhwysir holl safonau’r HCPC, ar draws pob maes ymarfer

    5.8 deall emosiynau, ymddygiad ac anghenion seicogymdeithasol pobl sy’n cael radiotherapi neu ddelweddu diagnostig, yn ogystal â rhai eu teuluoedd a’u gofalwyr

    *Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio’r nodweddion gwarchodedig fel oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth. Mae deddfwriaeth cydraddoldeb gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon yn diogelu oed, anabledd, rhywedd, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

     


  • 6.1 cadw at ddyletswydd broffesiynol cyfrinachedd a deall pryd y gall fod angen datgelu

    6.2 deall egwyddorion llywodraethu gwybodaeth a data a bod yn ymwybodol o ddefnydd diogel ac effeithiol o wybodaeth iechyd, gofal cymdeithasol a gwybodaeth berthnasol arall

    6.3 adnabod ac ymateb yn amserol i sefyllfaoedd lle mae angen rhannu gwybodaeth er mwyn diogelu defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a/neu’r cyhoedd yn ehangach

    6.4 deall yr angen i sicrhau y cynhelir cyfrinachedd ym mhob sefyllfa ble mae defnyddwyr y gwasanaeth yn dibynnu ar gymorth ychwanegol i gyfathrebu (megis dehonglwyr neu gyfieithwyr)

    6.5 deall bod cysyniadau cyfrinachedd a chydsyniad ar sail gwybodaeth yn ymestyn i bob cyfrwng, gan gynnwys cofnodion clinigol darluniadol megis ffotograffau, recordiadau fideo a sain a llwyfannau digidol

     


  • 7.1 defnyddio sgiliau llafar a dieiriau effeithiol a phriodol i gyfathrebu â defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, cydweithwyr ac eraill

    7.2 cyfathrebu yn Saesneg i’r safon ofynnol ar gyfer eu proffesiwn (yn cyfateb i lefel 7 System Ryngwladol Profi’r Saesneg (IELTS), heb unrhyw elfen islaw 6.5*)

    7.3 deall nodweddion a goblygiadau cyfathrebu llafar a dieiriau a sylweddoli sut mae’r rhain yn gallu cael eu heffeithio gan wahaniaeth o unrhyw fath gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, nodweddion gwarchodedig,** profiadau croestoriadol a gwahaniaethau diwylliannol

    7.4 gweithio gyda defnyddwyr y gwasanaeth a/neu eu gofalwyr i hwyluso’r rôl a ffeafrir gan ddefnyddiwr y gwasanaeth wrth wneud penderfyniadau, a rhoi’r wybodaeth y gall fod ei hangen arnynt i ddefnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr ble bo hynny’n briodol

    7.5 addasu eu dull o gyfathrebu er mwyn ateb anghenion a dewisiadau cyfathrebu unigol defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr, a dileu unrhyw rwystrau rhag cyfathrebu lle bo modd

    7.6 deall yr angen i gefnogi anghenion cyfathrebu defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr, megis trwy ddefnhyddio cyfieithydd neu ddehonglydd priodol

    7.7 defnyddio technolegau gwybodaeth, cyfathrebu a digidol sy’n briodol ar gyfer eu hymarfer

    7.8 deall yr angen i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i ddefnyddwyr y gwasanaeth neu i bobl sy’n gweithredu ar eu rhan, mewn fformatau hygyrch, er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth

    7.9 llunio a darparu gwybodaeth a chymorth i ddefnyddwyr y gwasanaeth ynglŷn â’u triniaeth a/neu broses a gweithdrefnau delweddu, gan ailwerthuso eu hanghenion o ran gwybodaeth fel y bo’n briodol

    Radiograffwyr diagnostig yn unig   

    7.10 cynghori gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ynglŷn a pherthnasedd a chymhwyso moddolderau delweddu i anghenion defnyddiwr y gwasanaeth

    7.11 darparu gwybodaeth a chymorth priodol i ddefnyddwyr y gwasanaeth drwy gydol eu harchwiliadau delweddu diagnostig

    Radiograffwyr therapiwtig yn unig

    7.12 cynghori gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ynglŷn a pherthnasedd a chymhwyso radiotherapi a lle bo’n berthnasol, moddolderau delweddu i anghenion defnyddiwr y gwasanaeth

    7.13 darparu gwybodaeth a chymorth priodol i ddefnyddwyr y gwasanaeth drwy gydol eu triniaeth radiotherapi a’u gofal neu archwiliadau delweddu diagnostig cysylltiedig

    * Mae’r System Ryngwladol Profi Saesneg (IELTS) yn profi hyfedredd yn y Saesneg. Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi cymhwyso y tu allan i’r Deyrnas Unedig nad ydy’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt ac nad ydynt yn ymgeisio trwy Lwybr Cyd-gydnabod y Swistir (SMR) ddarparu tystiolaeth i gadarnhau eu bod wedi cyflawni'r safon angenrheidiol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Datganiad ar anghenion hyfedredd yn y Saesneg ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal sydd wedi’u hyfforddi’n rhyngwladol.

    ** Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio’r nodweddion gwarchodedig fel oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth. Mae deddfwriaeth cydraddoldeb gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon yn diogelu oed, anabledd, rhywedd, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

     


  • 8.1 gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, cydweithwyr ac eraill

    8.2 cydnabod egwyddorion ac arferion gweithwyr proffesiynol a systemau iechyd a gofal eraill a’r ffordd maent yn rhyngweithio â’u proffesiwn hwythau

    8.3 deall yr angen i ddatblygu a chynnal perthnasoedd proffesiynol fel ymarferydd ymreolus ac hefyd yn gydweithredol fel aelod o dîm

    8.4 cyfrannu’n effeithiol at waith a gaiff ei gyflawni fel rhan o dîm amlddisgyblaethol

    8.5 adnabod gorbryder a straen yn nefnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a chydweithwyr, gan addasu eu hymarfer a darparu cefnogaeth lle bo’n briodol

    8.6 deall rhinweddau, ymddygiadau a manteision arwain

    8.7 cydnabod bod arwain yn sgil y gall pob gweithiwr proffesiynol ei ddangos

    8.8 adnabod eu rhinweddau, ymddygiadau a dulliau gweithio arweiniol eu hunain, gan ystyried pwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

    8.9 dangos ymddygiadau arweiniol sy’n briodol yn eu hymarfer

    8.10 bod yn ddelfryd ymddwyn i eraill

    8.11 hyrwyddo ac ymwneud â dysgu pobl eraill

    8.12 dangos ymwybyddiaeth o’r angen i rymuso defnyddwyr y gwasanaeth i gyfranogi yn y prosesau gwneud penderfyniadau sy’n gysylltiedig â’u proffesiwn

    8.13 dangos ymwybyddiaeth o’r angen i annog, cefnogi a mentora aelodau staff sy’n ymarferwyr ar bob lefel

    8.14 dangos ymwybyddiaeth o rolau a chyfrifoldebau ble caiff gwaith ei ddirprwyo a dangos dealltwriaeth o’r dull o weithredu hyn yn ymarferol

    8.15 deall, dehongli a gweithredu ar wybodaeth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill a defnyddwyr y gwasanaeth, er mwyn sicrhau’r budd iechyd gorau posib tra’n lleihau risgiau i ddefnyddiwr y gwasanaeth (megis y risg sy'n deillio o ddosys ymbelydrol)

    8.16 deall yr angen i gynnwys defnyddwyr y gwasanaeth wrth gynllunio’r gwasanaeth a darparu’r gwasanaeth, ac mewn addysg ac ymchwil

    Radiograffwyr diagnostig yn unig  

    8.17 deall yr angen i ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr wrth gynllunio a gwerthuso eu delweddu diagnostig a phrosesau ymyrryd

    Radiograffwyr therapiwtig yn unig

    8.18 deall yr angen i ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr wrth gynllunio cyn triniaeth radiotherapi, wrth gynnal triniaeth o'r fath ac wedi triniaeth o'r fath, a lle bo hynny’n berthnasol, wrth gynllunio a gwerthuso eu delweddu diagnostig a phrosesau ymyrryd

     


  • 9.1 cadw cofnodion llawn, eglur a chywir yn unol â deddfwriaeth, protocolau a chanllawiau perthnasol

    9.2 rheoli cofnodion a phob gwybodaeth arall yn unol â deddfwriaeth, protocolau a chanllawiau perthnasol

    9.3 defnyddio offer cadw cofnodion digidol, lle bo angen

     


  • 10.1 deall gwerth ymarfer myfyriol a’r angen i gofnodi canlyniad myfyrio o’r fath er mwyn cefnogi gwella parhaus

    10.2 cydnabod gwerth adolygiadau amlddisgyblaethol, cynadleddau achosion a dulliau eraill o adolygu

     


  • 11.1 ymwneud ag ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth

    11.2 casglu a defnyddio adborth a gwybodaeth, gan gynnwys data ansoddol a meintiol, er mwyn gwerthuso ymateb defnyddwyr y gwasanaeth i’w gofal

    11.3 monitro a gwerthuso ansawdd yr ymarfer yn systematig, a chynnal proses rheoli ansawdd a sicrhau ansawdd effeithiol tra’n gweithio tuag at wella’n barhaus

    11.4 ymwneud â rheolaeth ansawdd, gan gynnwys rheoli ansawdd, sicrhau ansawdd, llywodraethu clinigol a’r defnydd o ddulliau priodol i fesur canlyniadau

    11.5 gwerthuso cynlluniau gofal neu gynlluniau ymyrryd gan ddefnyddio dulliau priodol i fesur canlyniadau, ar y cyd a defnyddiwr y gwasanaeth lle bo modd, ac adolygu’r cynlluniau yn ôl yr angen

    11.6 cydnabod gwerth casglu a defnyddio data ar gyfer rhaglenni sicrhau a gwella ansawdd

    11.7 deall egwyddorion a gofynion rheoleiddiol ar gyfer rheoli ansawdd a sicrhau ansawdd fel y maent yn berthnasol i’w proffesiwn

    11.8 deall y prosesau gwella ansawdd sydd ar waith sy’n berthnasol i’w proffesiwn

     


  • 12.1 gwerthfawrogi, a dwyn gwybodaeth yn rhagweithiol o, brofiadau byw o iechyd a salwch, yn ogystal ag effeithiau anablu ac allgáu cymdeithasol, ac ystyried hynny ochr yn ochr â gwybodaeth ddiagnostig sy’n berthnasol i’w proffesiwn

    12.2 dangos ymwybyddiaeth o egwyddorion a ffyrdd o gymhwyso ymholi gwyddonol, gan gynnwys gwerthuso effeithiolrwydd triniaethau a’r broses ymchwil

    12.3 cydnabod rôl/rolau gweithwyr proffesiynol eraill mewn iechyd a gofal a deall sut y gallant fod yn gysylltiedig â rôl therapyddion celfyddydau o fewn y timau integredig sy’n gwasanaethu cymunedau

    12.4 deall strwythur a swyddogaeth systemau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig

    12.5 dangos ymwybyddiaeth o athroniaeth a datblygiad y proffesiwn radiograffeg er mwyn llywio dealltwriaeth o ymarfer cyfredol

    12.6 deall rôl y radiograffydd a gweithredwyr eraill o ran hybu iechyd ac addysg iechyd mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd, byw’n iach a sgrinio iechyd ar gyfer canfod clefydau

    12.7 deall y niweidiau a’r buddiannau sy'n gysylltiedig â sgrinio iechyd y boblogaeth a sgrinio iechyd wedi’i dargedu

    12.8 deall yr egwyddorion radiofiolegol y mae ymarfer radiograffeg yn seiliedig arnynt

    12.9 deall cysyniad risg v budd mewn perthynas ag ymbelydredd ïoneiddio ac ymbelydredd nad yw’n ïoneiddio, gan gydnabod y bydd hynny’n wahanol gan ddibynnu ar foddolder, a chyfleu hyn i ddefnyddwyr y gwasanaeth, gan ystyried barn defnyddwyr y gwasanaeth

    12.10 deall yr athroniaeth a’r egwyddorion sydd ynghlwm ag ymarfer eu proffesiwn

    12.11 deall a chymhwyso egwyddorion creu ymbelydredd ïoneiddio, rhyngweithio â mater, addasu pelydrau, cyflwyno radioniwclidau ac amddiffyn rhag ymbelydredd

    12.12 gwybod am yr egwyddorion ffisegol a gwyddonol y mae creu delweddau drwy ddefnyddio ymbelydredd ïoneiddio ac ymbelydredd nad yw’n ïoneiddio yn seiliedig arnynt

    12.13 deall dosimetreg ymbelydredd ac egwyddorion cyfrifo dosys

    12.14 deall y sylfaen ddamcaniaethol sy’n sail i asesu defnyddwyr y gwasanaeth cyn ac yn hystod eu triniaeth

    12.15 deall galluoedd, cymwysiadau ac ystod y cyfarpar a ddefnyddir yn eu proffesiwn

    12.16 gwahaniaethu rhwng ffurfiau normal ac annormal ar ddelweddau

    12.17 gwybod y cysyniadau a’r egwyddorion sy'n gysylltiedig ag ymarfer eu proffesiwn a sut mae’r rhain yn llywio ac yn cyfeirio barn glinigol a gwneud penderfyniadau

    12.18 gwybod am ffarmacoleg cyffuriau a ddefnyddir yn eu proffesiwn

    12.19 deall y ddeddfwriaeth, egwyddorion a dulliau ar gyfer rhoi cyffuriau a ddefnyddir yn eu proffesiwn yn ddiogel ac yn effeithiol

    12.20 deall y mecanweithiau ar gyfer rhoi cyffuriau, gan gynnwys dulliau mewnwythiennol a chyfryngau cyferbynnu a roddir trwy’r geg

    12.21 adnabod ac ymateb i adweithiau niweidiol neu annormal i feddyginiaethau a ddefnyddir mewn perthynas â’u proffesiwn

    12.22 deall egwyddorion storio, cludo a gwaredu cynhyrchion meddyginiaethol a ddefnyddir mewn perthynas â’u proffesiwn yn ddiogel

    12.23 dangos ymwybyddiaeth o ddatblygiadau a thueddiadau cyfredol yng ngwyddor ac ymarfer radiograffeg

    12.24 deall anghenon cyfathrebu, anatomi a phrosesau clefydau gwahanol a’r modd y maent yn amlygu eu hunain mewn plant

    12.25 dangos ymwybyddiaeth o egwyddorion Deallusrwydd Artiffisial (AI) a thechnoleg dysgu dwfn, a sut y cânt eu cymhwyso i ymarfer

    Radiograffwyr diagnostig yn unig  

    12.26 deall arwyddion a symptomau clefydau a thrawma sy’n arwain at atgyfeiriad i gael prosesau delweddu diagnostig, a sut maent yn ymddangos mewn delweddau

    12.27 deall strwythur a gweithrediad y corff dynol mewn iechyd, clefydau a thrawma, yn ogystal â phatholegau a mecanweithiau cyffredin clefydau a thrawma, gan gynnwys y:
    - system gyhyrysgerbydol;
    - organau meinweoedd meddal;
    - anatomi parthau ac anatomi croes-toriadol y pen, gwddf, aelodau, thoracs, pelfis a’r abdomen; a
    - systemau cardiofasgwlar, resbiradol, cenhedlol-wrinol, gastroberfeddol a niwro-endocrinaidd

    Radiograffwyr therapiwtig yn unig

    12.28 deall strwythur a gweithrediad y corff dynol iach ac afiach, gan gynnwys:
    - anatomi parthau ac anatomi croes-toriadol y pen, gwddf, aelodau, thoracs, pelfis a’r abdomen; a
    - phatholegau a mecanweithiau cyffredin clefydau, gan ganolbwyntio ar ganser, histoleg, haematoleg a’r systemau lymffatig ac imiwnedd

    12.29 deall:
    - oncoleg, pathoffisioleg malaeneddau solet a systemig;
    - epidemioleg;
    - achoseg; a
    - rheoli canser a'i effaith

    12.30 gwybod beth ydy’r arwyddion a’r symptomau ffisiolegol, yr ymchwiliadau clinigol a’r prosesau diagnostig sy’n arwain at atgyfeiriadau i gael radiotherapi

    12.31 gwybod am wyddor biocemegol pathoffisioleg ymbelydredd

    12.32 deall dylanwad triniaeth ategol a neoategol, gan gynnwys llawdriniaeth a chemotherapi, ar ragnodi dosys radiotherapi, amseru radiotherapi a chymhlethdodau wedi radiotherapi

    12.33 deall egwyddorion meddygaeth niwclear a phrosesau radioniwclid mewn cynllunio a arweinir gan radiotherapi a therapïau radioniwclid a theragnosteg

     


  • 13.1 newid eu hymarfer yn ôl yr angen er mwyn ystyried datblygiadau a thechnolegau newydd a chyd-destunau sy’n newid

    13.2 casglu gwybodaeth briodol

    13.3 dadansoddi’r wybodaeth a gesglir a'i gwerthuso'n feirniadol

    13.4 dethol a defnyddio technegau a chyfarpar asesu priodol

    13.5 cynnal a chofnodi asesiadau trylwyr, sensitif a manwl

    13.6 cynnal neu drefnu ymchwiliadau yn unol â’r hyn sy’n briodol

    13.7 cyflawni gweithdrefnau asesu neu fonitro, triniaeth, therapi neu weithredoedd eraill priodol yn ddiogel ac yn effeithiol

    13.8 adnabod ystod o fethodolegau ymchwil sy’n berthnasol i’w rôl

    13.9 cydnabod gwerth ymchwil o safbwynt gwerthuso ymarfer yn feirniadol

    13.10 gwerthuso ymchwil a thystiolaeth arall yn feirniadol er mwyn llywio eu hymarfer eu hunain

    13.11 cynnwys defnyddwyr y gwasanaeth mewn ymchwil fel y bo’n briodol

    13.12 llunio cynlluniau rheoli penodol a phriodol gan gynnwys gosod amserlenni

    13.13 asesu, monitro a gofalu am ddefnyddwyr y gwasanaeth ar draws y llwybr gofal sy’n berthnasol i’w proffesiwn

    13.14 cynnal a chofnodi asesiad clinigol trylwyr, sensitif a manwl, gan ddethol a defnyddio technegau a chyfarpar priodol

    13.15 defnyddio dulliau ffisegol, graffigol, llafar ac electronig i gasglu a dadansoddi gwybodaeth o ystod o ffynonellau perthnasol, gan gynnwys hanes clinigol defnyddwyr y gwasanaeth, delweddau ac adroddiadau diagnostig, profion a chanlyniadau patholegol, cofnodion dosys a systemau gwirio triniaethau

    13.16 cyrchu a phrosesu data a gwybodaeth a gasglwyd yn gywir er mwyn cynnal y triniaethau sy'n gweddu orau i anghenion defnyddiwr y gwasanaeth

    13.17 cloriannu gwybodaeth o ddelweddau o ran arwyddion clinigol a chywirdeb technegol, a chymryd camau pellach yn ôl yr angen

    13.18 rheoli sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy gan gynnwys y gallu i addasu prosesau sydd wedi’u cynllunio

    13.19 gweithredu cyfarpar radiotherapi neu ddelweddu diagnostig yn ddiogel a chywir fel sy’n berthnasol i’w proffesiwn

    13.20 gwirio bod cyfarpar yn gweithio’n gywir ac yn unol â'r manylebau, a chymryd camau priodol mewn achosion ble mae namau ar eu gweithrediad

    13.21 dethol ac egluro’r rhesymeg dros dechnegau radiograffig a phrosesau llonyddu sy’n briodol i anghenion corfforol a rheoli afiechyd defnyddiwr y gwasanaeth

    13.22 gosod a llonyddu defnyddwyr y gwasanaeth yn gywir ar gyfer prosesau diogel a chywir

    Radiograffwyr diagnostig yn unig   

    13.23 awdurdodi a chynllunio archwiliadau delweddu diagnostig priodol

    13.24 cyfrifo dosys a chyswllt ag ymbelydredd a chofnodi a deall arwyddocâd dos ymbelydredd

    13.25 cyflawni ystod eang o dechnegau delweddu safonol, gan gynnwys archwiliadau ble mae angen cyfryngau cyferbynnu ar gyfer moddolderau perthnasol ar draws amrywiaeth o lwybrau gofal diagnostig neu sgrinio

    13.26 cynorthwyo ag ystod o dechnegau delweddu diagnostig a phrosesau ymyrryd mwy cymhleth gan ddarparu cefnogaeth radiograffig i ddefnyddiwr y gwasanaeth ac aelodau eraill o’r tîm amlddisgyblaethol

    13.27 darparu gofal priodol i’r ystod o ddefnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr cyn, yn hystod ac ar ôl archwiliadau delweddu, triniaethau ymyrryd lleiaf ymwthiol ac archwiliadau â chyfryngau cyferbynnu

    13.28 cynnal ystod o archwiliadau delweddu ble mae nodweddion unigol defnyddiwr y gwasanaeth yn galw am gynnal archwiliadau sy’n defnyddio technegau ansafonol

    13.29 cyflawni ystod o dechnegau gan ddefnyddio cyfarpar delweddu symudol y tu allan i ystafell ddelweddu benodol

    13.30 rheoli a chynorthwyo â thechnegau delweddu a gynhelir ar gleifion sydd dan anaesthesia neu’n anymwybodol

    13.31 addasu lefelau cyswllt ag ymbelydredd ïoneiddio a pharamedrau cofnodi delweddau er mwyn sicrhau delwedd o’r ansawdd ofynnol â’r dos gorau ar gyfer plant ac oedolion

    13.32 cyflawni ystod o dechnegau delweddu ac ymyriadau ar blant

    13.33 defnyddio’r dechnoleg brosesu a thechnoleg gysylltiedig sy’n cefnogi systemau delweddu i sicrhau'r effaith orau posib

    13.34 rheoli a chynorthwyo â phrosesau fflworosgopig diagnostig ac ymyrriadol, gan gynnwys y rhai sy’n gymhleth ac yn golygu defnyddio cyfryngau cyferbynnu

    13.35 cynnal ystod eang o archwiliadau tomograffig wedi’u cyfrifyddu (CT), gan gynnwys archwiliadau CT safonol ar y pen, a chynorthwyo gydag archwiliadau CT o’r asgwrn cefn, y frest a’r abdomen mewn trawma acíwt, a chyfrannu’n effeithiol at astudiaethau CT eraill

    13.36 cyflawni prosesau delweddu cyseiniant magnetig safonol

    13.37 cynorthwyo â phrosesau delweddu uwchsain

    13.38 cynorthwyo â phrosesau delweddu sy’n cynnwys y defnydd o radioniwclidau gan gynnwys olinyddion PET ac allyrwyr gronynnau

    13.39 dadansoddi delweddau clinigol yn feirniadol o safbwynt ansawdd technegol ac awgrymu gwelliannau os oes angen

    13.40 gwahaniaethu rhwng canfyddiadau trawma afiechyd a chanfyddiadau brys ac annisgwyl fel y maent yn ymddangos ar ddelweddau diagnostig, a chymryd camau gweithredu uniongyrchol ac amserol i gynorthwyo’r cyfeiriwr

    Radiograffwyr therapiwtig yn unig

    13.41 cynllunio prosesau radiotherapi priodol

    13.42 cynorthwyo i adeiladu dyfeisiau llonyddu priodol (gan gynnwys rhai sy’n addasu pelydrau), wedi’u teilwra’n unigol at anghenion penodol pob defnyddiwr gwasanaeth a’r drefn driniaeth a ragnodwyd

    13.43 nodi organau sydd dan risg (OAR) ar ddelweddau er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer cynllunio triniaeth radiotherapi

    13.44 cyfrifo dosys ar draws moddolderau ymbelydredd, gan gynnwys ffotonau, protonau ac electronau, gan ddefnyddio system cynllunio triniaeth a gwirio hynny gyda system cofnodi a gwirio

    13.45 mewn perthynas â chynllunio radiotherapi:
    - cynorthwyo defnyddwyr y gwasanaeth i ddeall cyswllt ag ymbelydredd, risgiau a manteision sy’n gysylltiedig â chyswllt ag ymbelydredd a dosau mewn perthynas â’u harchwiliad delweddu;
    - cyflawni technegau delweddu amlfoddolder a’r broses o gofrestru delweddau, a lle bo hynny’n briodol, archwiliadau â chyfryngau cyferbynnu, gan ddangos gofal priodol tuag at ddefnyddwyr y gwasanaeth a’u gofalwyr;
    - addasu paramedrau cyswllt a chofnodi delweddau er mwyn sicrhau'r effaith orau;
    - cyflawni prosesau Tomograffig wedi’u Cyfrifyddu (CT) a chynorthwyo i gynnal prosesau cynllunio Cyseiniant Magnetig (MR); a
    - defnyddio’r dechnoleg brosesu a thechnoleg gysylltiedig sy’n cefnogi systemau delweddu i sicrhau'r effaith orau posib

    13.46 creu cynllun triniaeth a gwirio paramedrau triniaeth gan sicrhau y darperir y presgripsiwn radiotherapi gorau posib

    13.47 defnyddio’r dechnoleg brosesu delweddau a thechnoleg gysylltiedig, gan gynnwys systemau delweddu cyfrifiadurol at ddibenion radiotherapi

    13.48 cyflawni’r ystod lawn o brosesau a thechnegau radiotherapi yn gywir ac yn ddiogel

    13.49 rheoli a chynorthwyo â phrosesau fflworosgopig, gan gynnwys y rhai sy’n golygu defnyddio cyfryngau cyferbynnu

    13.50 dehongli a gwerthuso delweddau a geir yn ystod prosesau cynllunio a thriniaethau radiotherapi, gan gymryd camau gweithredu priodol er sicrhau y cyflwynir y ddos yn unol â’r cyfaint targed i’r graddau mwyaf cywir posib

    13.51 gwirio bod y dos OAR yn cyfateb i’r hyn a gynlluniwyd neu a bresgripsiynwyd yn ystod triniaeth

    13.52 lleoli’r cyfaint targed yn gywir mewn perthynas â marciau ar yr arwyneb allanol a chyfeirnodau anatomegol gan ddefnyddio ystod o dechnegau gan gynnwys delweddu CT ac MR at ddiben cynllunio a darparu radiotherapi

    13.53 gwerthuso’n feirniadol a dehongli’r presgripsiwn ymbelydredd mewn modd sy’n sicrhau y darperir y radiotherapi yn gywir ac mewn modd y gellir ei atgynhyrchu

    13.54 adnabod arwyddion newidiol, symptomau a datblygiad afiechyd, a gwneud penderfyniadau priodol i beidio â thrin neu i adolygu ymhellach cyn parhau â’r driniaeth, gan gynnwys adolygu gwybodaeth o ddelweddu’r driniaeth

     


  • 14.1 deall yr angen i gynnal eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill, gan gynnwys defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a chydweithwyr

    14.2 dangos ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol a chydymffurfio â’r holl weithdrefnau gweithredu a pholisïau lleol

    14.3 gweithio’n ddiogel, gan gynnwys gallu dethol technegau priodol ar gyfer rheoli peryglon a rheoli, lleihau neu ddileu risgiau, mewn modd diogel ac yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch

    14.4 dethol cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol a’i ddefnyddio’n gywir

    14.5 sefydlu amgylcheddau diogel ar gyfer ymarfer, sy’n rheoli risgiau mewn modd priodol

    14.6 deall technegau symud a chodi priodol a’u rhoi ar waith

    14.7 sicrhau diogelwch corfforol pob unigolyn yn yr amgylchedd gwaith delweddu/therapiwtig, yn enwedig o ran diogelwch ymbelydredd a meysydd magnetig cryf iawn

    14.8 defnyddio technegau cynnal bywyd sylfaenol a gallu ymdrin yn ddiogel ag argyfyngau clinigol

    14.9 gwybod am egwyddorion a’r defnydd cywir o ddiheintwyr, dulliau ar gyfer diheintio a dihalogi ac ar gyfer ymdrin â gwastraff a gollyngiadau yn gywir

     


  • 15.1 deall rôl eu proffesiwn o ran hybu iechyd, addysg iechyd ac atal afiechyd

    15.2 deall sut y gall ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol (penderfynyddion iechyd ehangach) ddylanwadu ar iechyd a lles unigolyn

    15.3 grymuso a galluogi unigolion (gan gynnwys defnyddwyr y gwasanaeth a chydweithwyr) i chwarae rhan wrth reoli eu hiechyd eu hunain

    15.4 ymwneud ag iechyd galwedigaethol, gan gynnwys bod yn ymwybodol o anghenion brechu

     

Cyhoeddwyd:
01/09/2023
Resources
Standards and guidance
Is-gategori:
Professional standards
Audience
Cofrestredig
Profession
Radiographers
Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 04/12/2023
Top