Skip navigation

Standards of conduct, performance and ethics

The standards of conduct, performance and ethics set out, in general terms, how we expect our registrants to behave.

Registrants must meet these standards at all times and we will use them if someone raises a concern about a registrant’s practice.

We also use them to help us make decisions about the character of professionals who apply to our Register.

Y safonau


  • Trin defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr gyda pharch

    1.1 Rhaid i chi drin defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr fel unigolion, gan barchu eu preifatrwydd ac urddas.

    1.2 Rhaid i chi weithio mewn partneriaeth gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, gan eu cynnwys, ble fo'n briodol, mewn penderfyniadau am ofal, triniaeth neu wasanaethau eraill i'w darparu.

    1.3 Rhaid i chi annog a helpu defnyddwyr gwasanaeth, ble fo'n briodol, i gynnal eu hiechyd a lles eu hunain, ac i'w cefnogi er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau gwybodus. 

    Sicrhewch fod gennych gydsyniad

    1.4 Rhaid i chi sicrhau bod gennych gydsyniad defnyddwyr gwasanaeth neu awdurdod priodol arall cyn i chi ddarparu gofal, triniaeth neu wasanaethau eraill. 

    Herio gwahaniaethu

    1.5 Ni ddylech wahaniaethu yn erbyn defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr na chydweithwyr trwy ganiatáu i'ch barnau personol effeithio ar eich perthnasau proffesiynol na gofal, triniaeth na gwasanaethau eraill a ddarperir gennych.

    1.6 Rhaid i chi herio cydweithwyr os ydych chi'n meddwl eu bod wedi gwahaniaethu yn erbyn, neu eu bod yn gwahaniaethu yn erbyn, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a chydweithwyr.

    Cynnal terfynau priodol

    1.7 Rhaid i chi gadw eich perthynas gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn broffesiynol.


  • Cyfathrebu gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr

    2.1 Rhaid i chi fod yn foesgar ac ystyrlon.

    2.2 Rhaid i chi wrando ar ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ac ystyried eu hanghenion a dymuniadau.

    2.3 Rhaid i chi roi'r wybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr maent angen, mewn ffordd y gallant ei deall.

    2.4 Rhaid i chi sicrhau, ble fo'n bosibl, y gwneir trefniadau i fodloni anghenion ieithyddol a chyfathrebu defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.

    Gweithio gyda chydweithwyr

    2.5 Rhaid i chi weithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr, gan rannu eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ble fo'n briodol, er lles defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.

    2.6 Rhaid i chi rannu gwybodaeth berthnasol, ble fo'n briodol, gyda chydweithwyr sy'n ymwneud â gofal, triniaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir i ddefnyddiwr gwasanaeth.

    Cyfryngau cymdeithasol a gwefannau rhwydweithio

    2.7 Rhaid i chi ddefnyddio pob math o gyfathrebu yn briodol a chyfrifol, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwefannau rhwydweithio.

  • Cadw o fewn eich cwmpas ymarfer

    3.1 Rhaid i chi gadw o fewn eich cwmpas ymarfer trwy ymarfer yn y meysydd ble mae gennych wybodaeth, sgiliau a phrofiad priodol ar eu cyfer yn unig.

    3.2 Rhaid i chi gyfeirio defnyddiwr gwasanaeth at ymarferwr arall os yw'r gofal, triniaeth neu wasanaethau eraill maent angen tu hwnt i'ch cwmpas ymarfer.

    Cynnal a datblygu eich gwybodaeth a sgiliau

    3.3 Rhaid i chi gadw eich gwybodaeth a sgiliau yn gyfredol a pherthnasol i'ch cwmpas ymarfer trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.

    3.4 Rhaid i chi fod yn gyfredol gydag a dilyn y gyfraith, ein canllaw ac unrhyw ofynion eraill sy'n berthnasol i'ch ymarfer.

    3.5 Rhaid i chi ofyn am adborth a'i ddefnyddio i wella eich ymarfer.


  • Dirprwyo, trosolwg a chefnogaeth

    4.1 Rhaid i chi ddirprwyo gwaith i rywun sydd â'r wybodaeth, sgiliau a phrofiad sydd angen i'w gyflawni'n ddiogel ac effeithiol yn unig.

    4.2 Rhaid i chi barhau i ddarparu goruchwyliaeth a chefnogaeth briodol i'r rhai yr ydych yn dirprwyo gwaith iddynt.


  • Defnyddio gwybodaeth

    5.1 Rhaid i chi drin gwybodaeth am ddefnyddwyr gwasanaeth yn gyfrinachol.

    Datgelu gwybodaeth

    5.2 Dim ond dan yr amgylchiadau hyn y dylech ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol:

    – os oes gennych ganiatâd;
    – os yw'r gyfraith yn caniatáu hyn;
    – ei bod er lles gorau'r defnyddiwr gwasanaeth; neu
    – os yw er lles y cyhoedd, er enghraifft os yw'n angenrheidiol i amddiffyn diogelwch y cyhoedd neu i atal niwed i eraill.


  • Nodi a lleihau risg

    6.1 Rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i leihau risg o niwed i ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a chydweithwyr cyn belled ag sy'n bosibl.

    6.2 Ni ddylech wneud unrhyw beth, na chaniatáu i unrhyw un wneud unrhyw beth, a allai greu risg annerbyniol i iechyd neu ddiogelwch defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr neu gydweithiwr.

    Rheoli eich iechyd

    6.3 Rhaid i chi wneud newidiadau i sut ydych yn ymarfer, neu stopio ymarfer, os gallai eich iechyd corfforol neu feddyliol effeithio ar eich perfformiad neu farn, neu greu risg i eraill am unrhyw reswm.


  • Adrodd ar bryderon

    7.1 Rhaid i chi adrodd unrhyw bryderon sydd gennych am ddiogelwch neu les defnyddwyr gwasanaeth yn brydlon a phriodol.

    7.2 Rhaid i chi gefnogi ac annog unrhyw rai eraill i adrodd ar bryderon a pheidio atal unrhyw un rhag codi pryderon.

    7.3 Rhaid i chi gymryd camau priodol os oes gennych bryderon am ddiogelwch neu les plant neu oedolion bregus.

    7.4 Rhaid i chi sicrhau bod iechyd a lles defnyddwyr gwasanaeth yn dod cyn unrhyw deyrngarwch proffesiynol neu arall.

    Mynd ar drywydd pryderon

    7.5 Rhaid i chi fynd ar drywydd unrhyw bryderon yr ydych wedi eu hadrodd ac, os oes angen, eu huwchgyfeirio.

    7.6 Rhaid i chi gydnabod a gweithredu ar bryderon a godir i chi, gan ymchwilio, uwchgyfeirio neu ddelio â'r pryderon hynny ble fo'n briodol i chi wneud hynny.


  • Bod yn agored gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr

    8.1 Rhaid i chi fod yn agored ag onest pan fydd rhywbeth wedi mynd o chwith gyda'r gofal, triniaeth neu wasanaethau eraill a ddarperwch trwy:
    – hysbysu defnyddwyr gwasanaeth neu, ble fo'n briodol, eu gofalwyr, bod rhywbeth wedi mynd o'i le;
    – ymddiheuro;
    – cymryd camau i unioni pethau os yn bosibl; a
    – gwneud yn siwwˆ r bod defnyddwyr gwasanaeth neu, ble fo'n briodol, eu gofalwyr, yn derbyn esboniad llawn a phrydlon o beth sydd wedi digwydd ac unrhyw effeithiau tebygol.

    Delio â phryderon a chwynion

    8.2 Rhaid i chi gefnogi defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr sydd eisiau codi pryderon ynghylch yr ofal, triniaeth neu wasanaethau eraill a dderbyniont.

    8.3 Rhaid i chi roi ymateb cynorthwyol ac onest i unrhyw sy'n cwyno
    ynghylch yr ofal, triniaeth neu wasanaethau eraill a dderbyniont.


  • Ymddygiad personol a phroffesiynol

    9.1 Rhaid i chi wneud yn siwˆ r bod eich ymddygiad yn cyfiawnhau ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd ynoch chi a'ch proffesiwn.

    9.2 Rhaid i chi fod yn onest am eich profiad, cymwysterau a sgiliau.

    9.3 Rhaid i chi wneud yn siwˆ r bod unrhyw weithgareddau proffesiynol yr ydych yn ymwneud â nhw yn gywir ac nad ydynt yn debygol o gamarwain.

    9.4 Rhaid i chi ddatgan unrhyw faterion allai greu gwrthdaro buddiannau a sicrhau nad ydynt yn dylanwadu ar eich barn.

    Gwybodaeth bwysig am eich ymddygiad a chymhwyster

    9.5 Rhaid i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os:

    – byddwch yn derbyn rhybudd gan yr heddlu neu eich bod wedi eich cyhuddo, neu'ch cael yn euog, o dramgwydd troseddol;
    – yw sefydliad arall sy'n gyfrifol am reoleiddio proffesiwn iechyd neu ofal cymdeithasol wedi cymryd camau neu wneud casgliad yn eich erbyn; neu
    – rhoddwyd unrhyw gyfyngiad ar eich ymarfer, neu os ydych wedi'ch gwahardd neu ddiswyddo gan gyflogwr, oherwydd pryderon am eich ymddygiad neu gymhwyster.

    9.6 Rhaid i chi gydweithredu gydag unrhyw ymchwiliad i'ch ymddygiad neu gymhwyster, ymddygiad neu gymhwyster eraill, neu ofal, triniaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir i ddefnyddwyr gwasanaeth.


  • Cadwch gofnodion cywir

    10.1 Rhaid i chi gadw cofnodion llawn, clir, a chywir ar gyfer pawb yr ydych yn gofalu amdanynt, trin neu ddarparu gwasanaethau eraill iddynt.

    10.2 Rhaid i chi gwblhau'r holl gofnodion yn brydlon a chyn gynted â
    phosibl wedi darparu gofal, triniaeth neu wasanaethau eraill.

    Cadw cofnodion yn ddiogel

    10.3 Rhaid i chi gadw cofnodion yn ddiogel trwy eu hamddiffyn rhag colled, difrod neu fynediad amhriodol.

What the standards mean for different groups

Os ydych chi'n derbyn gofal, triniaeth neu wasanaethau eraill gan un o'n cofrestryddion, neu os byddwch eisiau gwneud yn y dyfodol, bydd y safonau yn eich helpu i ddeall sut ddylai ein
cofrestryddion ymddwyn tuag atoch chi. Bydd y safonau hefyd yn ddefnyddiol os ydych chi'n ofalwr.

Ar yr achlysuron prin pan fydd pethau'n mynd o chwith, gall unrhyw un fynegi pryder trwy ein proses addasrwydd i ymarfer (gweler tudalen 15). Gallwn weithredu os oes pryderon difrifol
ynghylch gwybodaeth, sgiliau neu ymddygiad gweithiwr iechyd a gofal.

Rydym yn defnyddio'r safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg i'n helpu i benderfynu a oes angen i ni weithredu i ddiogelu'r cyhoedd.

Os ydych chi wedi cofrestru gyda ni, rhaid i chi sicrhau eich bod yn gyfarwydd gyda'r safonau a'ch bod yn parhau i'w bodloni. Os ydych chi'n ymgeisio i gael eich cofrestru, bydd angen i chi
lofnodi datganiad i gadarnhau y byddwch yn cadw at y safonau unwaith y byddwch wedi cofrestru.

Fel cofrestrydd, rydych chi'n bersonol gyfrifol am sut ydych chi'n ymddwyn. Bydd angen i chi ddefnyddio eich doethineb wrth wneud penderfyniadau gwybodus a rhesymol a bodloni'r safonau. Rhaid i chi fod yn barod i gyfiawnhau eich penderfyniadau a gweithredoedd ar bob adeg.

Gallai gwneud penderfyniadau gwybodus a rhesymol gynnwys cael cyngor a chefnogaeth gan gydweithwyr, darparwyr addysg, cyflogwyr, cyrff proffesiynol, undebau llafur neu bobl eraill. Yn
benodol, rydym yn cydnabod y rôl werthfawr mae cyrff proffesiynol yn chwarae o ran cynrychioli a hyrwyddo buddiannau eu haelodau. Mae hyn yn aml yn cynnwys darparu canllaw a chyngor ar arfer da, sy'n gallu'ch helpu i fodloni'r safonau.

Mae'r safonau hefyd yn berthnasol i chi os ydych yn fyfyriwr ar raglen a gymeradwywyd gan yr HCPC. Rydym wedi cyhoeddi dogfen arall 'Canllaw ar ymddygiad a moeseg i fyfyrwyr', sy'n sefydlu beth mae'r safonau yn eu golygu i chi.

Glossary

  • Making it clear that you are sorry about what has happened. The HCPC does not regard an apology, of itself, as an admission of liability or wrongdoing.

  • Anyone who looks after, or provides support to, a family member, partner or friend.

  • A general term to describe the different work that our registrants carry out.

  • Other health and care professionals, students and trainees, support workers, professional carers and others involved in providing care, treatment or other services to service users

  • A health and care professional’s behaviour

  • Permission for a registrant to provide care, treatment or other services, given by a service user, or someone acting on their behalf, after receiving all the information they reasonably need to make that decision.

  • To ask someone else to carry out a task on your behalf.

  • In these standards, this refers to making a formal decision to share information about a service user with others, such as the police

  • To unfairly treat a person or group of people differently from other people or groups of people. This includes treating others differently because of your views about their lifestyle, culture or their social or economic status, as well as the characteristics protected by law – age, disability,
    gender reassignment, race, marriage and civil partnership, pregnancy and maternity, religion or belief, sex and sexual orientation.

  • To pass on a concern about a service user’s safety or well-being to someone who is better able to act on it, for example, a more senior colleague, a manager or a regulator.

  • The values that guide a person’s behaviour or judgement.

  • A health and care professional who is currently practising in their profession.

  • To ask someone else to provide care, treatment or other services which are beyond your scope of practice or, where relevant, because the service user has asked for a second opinion.

  • The areas in which a registrant has the knowledge, skills and experience necessary to practise safely and effectively.

  • Anyone who uses or is affected by the services of registrants, for example, patients or clients

More information for employers or managers of health and care professionals is available on our Employer hub
Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 14/03/2023
Top