Skip navigation
Our website will be undergoing essential maintenance on Thursday 18 September, between 8–9am. A short downtime of 5 to 10 minutes is expected between this time while we complete the work. We apologise for any inconvenience and thank you for your patience.

Sut mae gwirio

I wirio’r Gofrestr bydd angen ichi wybod proffesiwn y person yr ydych am wirio’i gofrestriad.

Bydd angen hefyd ichi wybod un ai ei gyfenwi neu’i rif cofrestru.

Mae hyd at chwe rhif mewn rhif cofrestru, ac mae’n cychwyn gyda dwy lythyren, er enghraifft PH123456.

I wirio statws cofrestru rhywun bydd angen ichi:

  • Mewnbynnu ei gyfenw neu’i rif cofrestru;
  • Dewis ei broffesiwn o’r gwymplen;
  • Clicio ar y botwm ‘chwilio’

Chwilio’r canlyniadau

Dangosir faint o ganlyniadau sy’n cyfateb i’ch chwiliad, gyda 15 gweithiwr cofrestredig yn cael ei ddangos yn ddiofyn fesul tudalen.
Gallwch ddewis arddangos mwy o weithwyr fesul tudalen a symud drwy rifau’r tudalennau drwy ddefnyddio’r dolenni o dan ganlyniadau’r chwiliad.
Bydd canlyniadau’r chwiliad yn arddangos:

  • enw’r unigolyn;
  • ei statws cofrestru;
  • ei rif cofrestru; a'r
  • ardal ddaearyddol fras y mae’n gweithio ynddi.

Bydd clicio ar enw unigolyn cofrestredig yn arddangos rhagor o fanylion amdano.
Mae hyn yn cynnwys ei gyfnod cofrestru cyfredol, moddau ac unrhyw hawliau ychwanegol sydd ganddo.

Os byddwch yn chwilio yn ôl rhif cofrestru, byddwch yn neidio’n syth i’r wedd hon.

Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 05/11/2018
Top