Skip navigation

Cyflogaeth yn GIG Cymru

HCPC cofrestreion dros dro Cymru - cyfleoedd cyflogaeth posib gyda GIG Cymru

Hoffai ein cydweithwyr yn GIG Cymru fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu eich sylw at y nifer sylweddol o swyddi gwag COVID dros dro a pharhaol fel ei gilydd, sydd ar gael ar hyn o bryd.  Mae nifer o swyddi gwag ar gael ar hyn o bryd, gan gynnwys rhai sy’n cefnogi Rhaglen Frechu COVID Cymru.

Caiff pob swydd ar draws Cymru ei hysbysebu yma. Dangosir swyddi gwag sy’n cefnogi yr ymateb i COVID yn benodol yn gyntaf, ond gellir eu hidlo i ddangos amrywiaeth o swyddi gwag.

Cyfleoedd penodol 

Clinigwyr ar gyfer 111 a desg glinigol 999:

Mae gwasanaeth GIG 111 Cymru a desg glinigol 999 wedi chwarae rhan allweddol drwy gydol y frwydr yn erbyn Covid-19. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgymryd â rôl wirfoddol glinigol i helpu i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol hyn, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch helpu yn eich ardal leol: amb_integratedcare_recruitment@wales.nhs.uk

Rhaglen Frechu COVID:

Rydym yn ehangu ac yn cyflymu ein rhaglen frechu i gynnig brechiad atgyfnerthu i bob oedolyn dros 18 oed ac ail ddos o’r brechlyn i blant rhwng 12 a 15 oed. Bydd brechu pobl cyn gynted â phosibl yn gofyn am fwy o bobl i helpu yn y timau brechu ledled Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi'r rhaglen frechu, gweler y manylion cyswllt ar gyfer cyfeiriadau e-bost / cyswllt Banc ar gyfer pob Bwrdd Iechyd isod:

Byrddau Iechyd

Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 10/12/2021
Top